Cyflwynir myfyrwyr i bedwar maes pwnc y Dyniaethau: Saesneg, Hanes, Seicoleg a Chymdeithaseg.
Ym mhob pwnc, caiff amrywiaeth o themâu a chysyniadau ei hystyried, ac mae enghreifftiau wedi’u nodi isod:
Hanes: Cymru'r 19eg Ganrif, Yr Almaen Natsïaidd; Mussolini a’r Eidal
Saesneg: Ysgrifennu Creadigol; Gwerthfawrogi Barddoniaeth; Gwerthfawrogi Nofel
Cymdeithaseg: Cyflwyniad i Gymdeithaseg; Trosedd a Gwyriad; Cymdeithaseg y Teulu
Seicoleg: Dulliau Gweithredu Seicoleg; Dulliau Ymchwil; Ymddygiad Annormal;
Yn ogystal, rhaid i fyfyrwyr gyflawni modiwlau craidd mewn rhifedd, cyfathrebu, TG a Sgiliau Astudio a chwblhau prosiect ymchwil ar yr un pryd hefyd.
Rheolau Cyfuno ar gyfer Diploma MAU (Y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol)
Heb ei raddio | Lefel 2 | Lefel 3 | |
Sgiliau Cyfathrebu ar gyfer Mynediad i Addysg Uwch HC83CY007 | 3 | ||
Tri chredyd ar Lefel 3 o fodiwl Sgiliau Astudio. | 3 | ||
Mathemateg | 6 | ||
Cyflwyniad Llafar HC73CY142 | 3 | ||
CYFANSWM | 6 | 9 |
Diweddarwyd Ionawr 2021
Bydd angen i ymgeiswyr gwblhau cwrs cyn-fynediad neu gwblhau aseiniad mynediad yn llwyddiannus.
Drwy gydol y flwyddyn academaidd bydd myfyrwyr yn cael credyd drwy broses barhaus o asesu gwaith cwrs.
Caiff amrywiaeth o dechnegau asesu ffurfiol ac anffurfiol eu defnyddio gan gynnwys traethodau ysgrifenedig, astudiaethau achos, dadleuon, straeon byrion, prosiectau ymchwil a chyflwyniadau.
Nod y cwrs yw datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i astudio ar lefel gradd. Felly, y dilyniant naturiol yw rhaglen Gradd mewn Saesneg, hanes, Cymdeithaseg, Seicoleg neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Mae cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i yrfaoedd addysgu, gwaith ieuenctid a chymunedol, gweinyddiaeth gyhoeddus, cwnsela a gyrfaoedd eraill i raddedigion.
Rhaid i fyfyrwyr amser llawn dalu ffi gofrestru o tua £20.
Mae cyfweliad a sgrinio sgiliau sylfaenol yn ofynnol.