Trosolwg o’r Cwrs
Mae hwn yn gwrs NEWYDD* ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd i addysg er mwyn symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella cyfleoedd gyrfa ym maes cyfrifiadura. Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau gorfodol a dewisol sy’n cyfrannu at eich Diploma Mynediad i AU.
Mae unedau gorfodol yn cynnwys:
- Prosiect ymchwilio
- Mathemateg ar gyfer cyfrifiadura
- Systemau gwybodaeth
- Datblygu meddalwedd
- Systemau cyfrifiadurol a phensaernïaeth rhwydwaith
- Dylunio cyfrifiadurol a datblygu gwefan (unedau dewisol o fewn y llwybr hwn)
- Sgiliau cyfathrebu ar gyfer Mynediad i AU
- Cyflwyniadau llafar
- Algebra a graffiau
- * Caiff y cwrs hwn ei gynnig o fis Medi 2017
Diweddarwyd Mai 2017
Gofynion Mynediad
Mae’n debygol bod ymgeiswyr yn dychwelyd i ddysgu a gallant astudio rhaglenni Mynediad o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Bydd yr holl ymgeiswyr yn cael cyfweliad i bennu eu haddasrwydd i ofynion y rhaglen sy’n ystyried (i) nodau (ii) profiad bywyd (iii) profiad addysgol yr ymgeiswyr. Bydd ymgeiswyr yn cael cyngor os bydd llwybrau Lefel 3 yn fwy priodol i’w nodau.
Mae’n bosibl hefyd y bydd ymgeiswyr yn cael cyngor ar y dechrau i ystyried ein rhaglen Cyn-fynediad Lefel 2 i’w paratoi ymhellach a chael cyngor ar eu haddasrwydd i astudio ar y llwybr Lefel 3.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae’r Diploma Mynediad 60-credyd newydd hwn yn cael ei asesu’n barhaus drwy gwblhau cyfuniad o unedau gorfodol a dewisol.
Bydd dulliau asesu’n cynnwys amrywiaeth o waith prosiect ac aseiniadau, traethodau, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil a phrofion. Bydd gofyn i chi gynnal eich ffeil cwrs i’r safon ofynnol ar gyfer corff dyfarnu Agored.
Mae angen lefel uchel o ymrwymiad i’r unedau a asesir yn barhaus er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud cais i astudio cwrs Addysg Uwch mewn amrywiaeth eang o lwybrau cysylltiedig â chyfrifiadura megis:
- Gradd Sylfaen Rheolaeth TG ar gyfer Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
- Graddau sylfaen mewn TGCh
- BSc mewn Cyfrifiadura / Rheolaeth TG
- Prentisiaethau Uwch Posibl ym maes TGCh