Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth eang o amrywiaeth o gysyniadau cysylltiedig â chwaraeon gan gynnwys:
- Sut mae cyflyrau ffisiolegol a seicolegol yn effeithio ar berfformiad
- Y ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol sy’n dylanwadu ar gyfranogiad pobl mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon
- Rôl technoleg mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon
- Y cyfraniad y mae gweithgarwch corfforol yn ei wneud i iechyd a ffitrwydd
- Sut i ddadansoddi a gwerthuso i wella perfformiad.
20/10/22
Gofynion Mynediad
Mae gradd B mewn TGAU Gwyddoniaeth (ddwbl/ driphlyg) a gradd B (C yn yr arholiad) mewn TGAU Addysg Gorfforol yn ddymunol.
Yn ogystal, rhaid eich bod yn chwarae o leiaf un gamp i safon lefel clwb.
Dull Addysgu’r Cwrs
Gallwn addysgu rhannau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Dilyniant
Os dewiswch aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon.
Astudiaethau pellach mewn pwnc cysylltiedig megis gwyddor chwaraeon, adsefydlu chwaraeon, therapi chwaraeon, maeth chwaraeon, hyfforddi ac addysgu. Gyrfaoedd mewn chwaraeon, hamdden, iechyd a ffitrwydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi coleg am tua £70. Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i brynu tracwisg coleg a phecyn chwaraeon cysylltiedig â’r gamp o’u dewis. Efallai y bydd angen talu costau bach am ymweliadau addysgol lleol a rhaid i fyfyrwyr brynu llyfr i’w helpu gyda’u hastudiaethau.