Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 - Diploma Rhagarweiniol Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 1
BTEC Certificate
Tycoch
Un flwyddyn
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Ar y cwrs blwyddyn hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys bod yn drefnus, gwneud byrbrydau iach, trefnu a rhedeg digwyddiadau iechyd. 
 
Bydd myfyrwyr hefyd yn creu gweithgareddau i blant ac yn gwybod am greu amgylchedd diogel. Trwy brofiad gwaith ymarferol, bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol i ddatblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn iechyd a gofal cymdeithasol. 

Amcanion y Cwrs: 

  • Deall y sgiliau a’r rhinweddau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Datblygu’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol 
  • Ysgrifennu aseiniadau a dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth o bynciau Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfredol. 

Canlyniadau’r Cwrs: 

  • Bydd myfyrwyr yn gallu profi rôl gofalwr mewn canolfannau dydd, cartrefi gofal ac ysgolion 
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dangos rhinweddau gofalu 
  • Bydd myfyrwyr yn gallu trefnu eu hunain a chwblhau aseiniadau sy’n dangos eu gwybodaeth o ofal. 

Gwybodaeth allweddol

  • 1 radd C ar lefel TGAU a phortffolio o raddau D-E.

Dros bedwar diwrnod yr wythnos 9:00 – 16:00 

Asesu: 

Cyfuniad o astudiaethau achos ac un holiadur amlddewis (arholiad) 

Meini Prawf Graddio: 

Pasio neu Fethu 

Yn y Coleg, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Egwyddorion a Chyd-destun

Bydd rhaid i fyfyrwyr gwblhau cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar ddechrau eu cwrs. Mae’n costio tua £40.