Skip to main content

Safon Uwch Cerddoriaeth

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Nod y cwrs hwn yw ysbrydoli a datblygu’ch angerdd am gerddoriaeth, a rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o’i theori, ei hanes, ac elfennau ymarferol. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio arddulliau cerddorol amrywiol, dadansoddi cyfansoddiadau, ac ennilll hyfedredd mewn perfformio a chyfansoddi. 

Amcanion: 

  • Datblygu dealltwriaeth drylwyr o theori, nodiant a therminoleg cerddoriaeth 
  • Gwella eich sgiliau ymarferol trwy berfformiadau unigol ac ensemble 
  • Dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol ystod amrywiol o weithiau cerddorol 
  • Meithrin eich creadigrwydd a’ch technegau cyfansoddi 
  • Ennill gwybodaeth fanwl am hanes cerddoriaeth a’i gyd-destun diwylliannol.

Canlyniadau: 

Erbyn diwedd y cwrs hwn, byddwch yn: 

  • Meddu ar repertoire eang o wybodaeth a sgiliau cerddorol 
  • Gallu mynegi eich syniadau a’ch emosiynau’n effeithiol trwy berfformio a chyfansoddi 
  • Dadansoddi a dehongli gweithiau cerddorol cymhleth gyda llygad beirniadol 
  • Deall arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol gwahanol genres cerddorol 
  • Barod ar gyfer astudiaethau pellach neu yrfa mewn cerddoriaeth.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg laith
  • Graddau A neu B mewn TGAU Cerddoriaeth neu Theori Gradd 5 (ABRSM) 
  • Diddordeb byw mewn cerddoriaeth a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau corfforol 
  • Mae’n fuddiol hefyd eich bod yn gallu canu neu chwarae offeryn yn hyfedr 
  • Mae’r gallu i ddarllen nodiant cerddoriaeth a bod yn barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, perfformiadau grŵp ac ymarfer unigol yn hanfodol. 

Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu trwy gyfuniad o sesiynau dosbarth, ymarferion ac ymarfer unigol. Mae dulliau asesu yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig, perfformiadau ymarferol, a phortffolios cyfansoddi. Bydd meini prawf graddio yn gwerthuso eich dealltwriaeth o theori cerddoriaeth, eich hyfedredd technegol mewn perfformio, eich sgiliau cyfansoddi, a’ch gallu i ddadansoddi gweithiau cerddorol yn feirniadol. 

Bydd eich meysydd astudio yn cynnwys Cerddoriaeth Gorawl Grefyddol (1730-1890) a Theatr Gerdd. Dyfarnwyd ‘Gwobr Athro y Flwyddyn Pearson’ yn 2021 i’r tiwtor cerdd presennol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn 2021 a fydd yn rhoi adborth ac arweiniad i chi yn rheolaidd ac yn cefnogi eich cynnydd a’ch datblygiad drwy gydol y cwrs.

Mae cwblhau Safon Uwch Cerddoriaeth yn llwyddiannus yn agor amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant. Gallwch ddilyn addysg uwch mewn meysydd sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth fel cerddoleg, cyfansoddi, perfformio, neu gynhyrchu cerddoriaeth. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis parhau â’u hastudiaethau yn y brifysgol neu conservatoires i wella eu harbenigedd cerddorol ymhellach. 

Mae Safon Uwch Cerddoriaeth hefyd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth, gan gynnwys perfformio, addysgu, newyddiaduraeth cerddoriaeth, therapi cerdd, a gweinyddu’r celfyddydau. Yn ogystal, mae’r sgiliau trosglwyddadwy a enillir yn ystod y cwrs hwn, megis gwaith tîm, cyfathrebu, a meddwl yn feirniadol, yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr mewn ystod eang o broffesiynau y tu allan i’r sector cerddoriaeth.

Mae ein cwrs Safon Uwch Cerddoriaeth yn cynnig cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr gymryd rhan mewn grwpiau cerddoriaeth allgyrsiol, gan gynnwys côr, cerddorfa, a band jazz. Mae’r grwpiau hyn yn darparu amgylchedd cydweithredol a chyfoethog i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cerddorol ymhellach, ennill profiad perfformio, a gwneud ffrindiau parhaol gyda chyd-selogion cerddoriaeth.

Explore in VR