Trosolwg o’r Cwrs
Ar y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau theori a fydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r elfennau ymarferol a addysgir. Mae’r amserlen hefyd yn cynnwys sesiynau ymarferol lle byddwch yn paratoi a gweini bwyd ar gyfer nosweithiau gourmet a thema yn ein bwyty hyfforddi, ‘Vanilla Pod’.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol ar radd Teilyngdod neu uwch neu gymhwyster cyfwerth mewn lletygarwch ac arlwyo. Mae ymrwymiad, brwdfrydedd a’r gallu i weithio gydag eraill yn hanfodol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Asesir y cwrs trwy aseiniadau ysgrifenedig, profion atebion byr, prawf ar-lein, asesiadau ymarferol a phrofion synoptig ymarferol.
Cyfleoedd Dilyniant
Cyrsiau NVQ goruchwylio / rheoli neu gyfleoedd cyflogaeth mewn lletygarwch cyffredinol, paratoi bwyd a choginio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd costau ychwanegol ar gyfer iwnifform, llyfrau ac ati.