Skip to main content

Safon Uwch Dylunio Graffig (Cyfathrebu)

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Astudiwch amrywiaeth o dechnegau a phrosesau dylunio graffig, gan greu eich dyluniadau eich hun a defnyddio deunyddiau traddodiadol a thechnolegau cyfredol, ymchwilio a chasglu ystod o ddelweddau ac adnoddau sy’n gysylltiedig â thema o’ch dewis ar gyfer eich aseiniadau personol. 

Archwiliwch wahanol feysydd cyfathrebu graffig trwy gydol y broses ddylunio, e.e. 

  • Darlunio 
  • Hysbysebu a brandio 
  • Dylunio pecynnau 
  • Trin delweddau  
  • Dylunio gosodiad ar gyfer print a chyfryngau  
  • Graffeg a gwaith celf wedi’u dylunio gan gyfrifiadur.

Sgiliau a Thechnegau:

Dysgwch amrywiaeth o sgiliau sy’n eich paratoi ar gyfer gweithio yn y sector creadigol/dylunio, gan ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant, o ddyluniadau cysyniad sylfaenol, i ddatblygu’r syniadau hynny i gynlluniau manylach, gan gynhyrchu darnau digidol o waith celf yn y pen draw. 

Mae ein hamgylchedd dysgu yn cefnogi gweithio’n greadigol gyda deunyddiau traddodiadol (pensiliau, marcwyr graffeg a phennau darlunio) ynghyd â’r offer technegol diweddaraf (meddalwedd Adobe, Apple macs, sganwyr a llechi digidol ac ati.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg laith
  • Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar gymhwyster TGAU mewn Cyfathrebu Graffig, Celf a Dylunio, Astudiaethau Cyfryngau neu TGCh a byddwch yn dangos rhwyfaint o ddealltwriaeth o broses ddylunio
  • Mae dangos gallu creadigol trwy ddylunio, lluniadu, creu gwaith celf, ffotograffiaeth neu waith ffilm mewn rîl neu bortffolio/llyfr braslunio yn gallu helpu i gefnogi ceisiadau yn absenoldeb cymwysterau celf TGAU. 

Arweinir y sesiynau gan ddarlithydd gyda chyfle i ddefnyddio technegau a ddysgwyd wrth weithio’n annibynnol ar eich aseiniadau eich hun. Mae hunan-gymhelliant, rheolaeth dda o amser a chyflwyno tasgau wedi’u cwblhau yn nodweddion trosglwyddadwy defnyddiol a enillir yn ystod y cwrs hwn. 

Er mwyn cyflawni lefel uchel o lwyddiant, bydd angen treulio amser ychwanegol y tu allan i oriau’r amserlen gan ychwanegu at waith portffolio a’i fireinio a byddwch yn gweld gwelliant yn eich gwaith gorffenedig eich hun. 

Asesir ac adolygir gwaith cwrs trwy gydol y flwyddyn, a dyfernir marc terfynol ar ôl i brosiectau gael eu cwblhau a’u cyflwyno. Nid oes arholiad ysgrifenedig. Asesir myfyrwyr ar yr elfennau ysgrifenedig sydd wedi’u hymgorffori mewn gwaith cwrs.

Y Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. 

Rydym wedi sefydlu cysylltiadau iach gyda nifer o brifysgolion, ac yn croesawu gwesteion o gyrsiau amrywiol i gyflwyno gweithdai a darparu cyfleoedd i helpu dysgwyr i ystyried opsiynau dichonadwy ar gyfer llwybrau proffesiynol o fewn y diwydiannau creadigol. 

Gallai myfyrwyr llwyddiannus ddefnyddio’r cymhwyster hwn i gael mynediad i astudiaeth bellach. Dylunio graffig, dylunio amlgyfrwng, dylunio gemau, hysbysebu a brandio, darlunio yw rhai o’r opsiynau yn y byd cyfathrebu gweledol sy’n ehangu o hyd.

Mae ffi stiwdio £30 ynghlwm wrth y cwrs hwn.