Skip to main content

Cyflwyniad i Addysg Bellach – Sgiliau Bywyd

Amser-llawn
Lefel Mynediad
OCR
Tycoch
36 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs Cyflwyniad i Addysg Bellach yn cynnig cyflwyniad i goleg AB ar Fynediad Lefel 1 a bydd myfyrwyr yn ennill prif gymhwyster Tystysgrif OCR mewn Sgiliau Bywyd a Sgiliau Byw.

Anogir myfyrwyr i ddatblygu sgiliau annibynnol trwy amserlen amrywiol, sy’n cynnwys cyfle rhifedd a llythrennedd ac opsiwn galwedigaethol. 

Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i fyfyrwyr brofi bywyd coleg cyn symud ymlaen i lwybrau dilyniant priodol, fel arfer yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Diweddarwyd Hydref 2016

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ond bydd cyfweliad anffurfiol yn cael ei gynnal. Yn ystod y cyfweliad, bydd asesiad cychwynnol ar-lein yn cael ei gwblhau i asesu sgiliau rhifedd a llythrennedd ac addasrwydd. Bydd anghenion cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr yn cael eu trafod i sicrhau bod y cwrs yn addas ar gyfer anghenion dysgwyr.

Bydd myfyrwyr Cyflwyniad i Addysg Bellach yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o feysydd pwnc a allai gynnwys coginio, celf a dylunio, TGCh, byw’n iach, perthnasoedd a hamdden. Bydd dysgwyr yn symud o gwmpas o fewn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol, gan ddefnyddio ceginau, ystafelloedd celf, tŷ gwydr ac ystafelloedd TG. I wella profiad y myfyriwr, caiff dysgwyr gyfle i fynd ar ymweliadau dosbarth â lleoedd megis traethau lleol, amgueddfeydd a chyfleusterau chwaraeon. Bob tymor, bydd myfyrwyr yn cael dewis i gymryd rhan mewn amrywiaeth o opsiynau blasu yn y Coleg, gan gynnwys y cyfryngau, dawns, ioga, chwaraeon, peirianneg, garddio a’r côr. Bydd yr holl fyfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn cael mynediad i’r Ganolfan Ddysgu, y siop goffi, y ffreutur, ystafelloedd tawel a’r Ganolfan Chwaraeon, yn ogystal â rhwydweithiau cymorth y Coleg megis swyddogion cymorth myfyrwyr, cwnselydd ar y safle a thiwtor personol. Caiff dysgwyr gyfle i gael sesiynau tiwtorial wythnosol gyda’u tiwtor personol. Fel rheol, bydd sesiynau’n seiliedig ar bwnc, ond bydd dysgwyr yn cael cyfle i gwrdd â thiwtoriaid un i un, mewn grŵp neu gyda rhieni os bydd angen. Addysgir y cwrs trwy amrywiaeth o weithgareddau ystafell ddosbarth, ymarferol a chymunedol. Asesir y cwrs trwy ddulliau ysgrifenedig ac arsylwi, ac fel arfer bydd hyn yn cynnwys asesiad ffotograffiaeth a fideo. Bydd yr holl weithgareddau’n cael eu hasesu’n barhaus drwy gydol y flwyddyn.

Bydd dilyniant yn dibynnu ar anghenion unigol y dysgwr. Bydd gwerthusiad ymddygiad ac ymrwymiad yn pennu a fydd y dysgwr yn symud ymlaen o fewn Sgiliau Byw’n Annibynnol. Mae cyfleoedd yn cynnwys symud ymlaen i gyrsiau Sgiliau Gwaith neu Sgiliau Bywyd (Mynediad 2), fel arfer yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol.