Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r diwydiant arlwyo a lletygarwch trwy baratoi a choginio amrywiaeth o seigiau ynghyd â’r gwasanaeth bwyd a diodydd.
Caiff y sgiliau hyn eu datblygu yn ein ceginau hyfforddi a bwyty’r Vanilla Pod.
Cewch gyfle hefyd i wella’ch sgiliau Mathemateg, Saesneg, llythrennedd digidol a chyflogadwyedd, fel rhan o’r cwrs.
Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn yn Gymraeg.
21/10/22
Gofynion Mynediad
Diddordeb mewn lletygarwch ac arlwyo.
Dull Addysgu’r Cwrs
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Gweithgareddau ymarferol
- Asesiadau ymarferol
- Arsylwi parhaus
- Profion byr
- Arholiadau amlddewis
Cyfleoedd Dilyniant
VRQ Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol, yn dilyn cyfweliad llwyddiannus gyda’r tîm, neu gyflogaeth gysylltiedig.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd costau ar gyfer iwnifform, llyfrau ac ati.
Gall myfyrwyr brynu seigiau wedi’u coginio mewn sesiynau ymarferol am bris rhesymol.
Dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol efallai y bydd angen prynu eitemau iwnifform ychwanegol yn ystod y cwrs. Gellir prynu’r eitemau hyn yn uniongyrchol gan y cyflenwr.
Mae’r llyfrau a awgrymir i’w cael yn y llyfrgell. Gall myfyrwyr brynu eu copïau eu hunain gan gyflenwr a argymhellir.