Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg: Ffilm, Graffeg Symudol ac Effeithiau Gweledol (Diploma Estynedig L3)

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ennill y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i addysg uwch neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth mawr o lwybrau yn y diwydiannau creadigol.

Bydd meysydd astudio’n cynnwys : Ffilm, Graffeg Symudol ac Effeithiau Gweledol

Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y broses greadigol o’r cyn-gynhyrchu i’r ôl-gynhyrchu. Byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau mewn astudiaethau ymarferol, damcaniaethol a chyd-destunol, gan gynhyrchu portffolios ar-lein a dangos riliau o’ch gwaith.

Caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â stiwdios cynhyrchu, digwyddiadau gyrfaoedd arbenigol, diwrnodau agored prifysgol a bydd gweithdai ymarferol, gan gynnwys sgiliau cyflogadwyedd. 

Y diwydiannau creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn enwedig yng Nghymru, gyda throsiant blynyddol o dros £1.9 biliwn. Mae’n cyflogi dros 58,000 o bobl, 52% yn fwy na deng mlynedd yn ôl. Mae Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn eang fel canolfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau. Mae hefyd yn gartref i glwstwr technoleg ddigidol sy’n tyfu. Maen nhw’n cwmpasu amryw byd o swyddi gan gynnwys y Cyfryngau Digidol, Marchnata, Teledu, Ffilm, Hysbysebu ac Animeiddio.    

Bydd y cwrs hwn yn cefnogi myfyrwyr sydd am ddilyn y gyrfaoedd canlynol: Creawdwr Cynnwys, Golygydd Delweddau, Cynhyrchydd Fideo, Golygydd Fideo, Cynhyrchydd Graffeg Symudol, Golygydd Sain, Rheolwr Brand, Gwerthu a Marchnata, Ffotograffydd, Dylunydd Gwefannau, Ysgrifennwr Copïau, Dylunydd Rhyngwyneb Defnyddiwr, Dylanwadwr YouTube.

Corff Dyfarnu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg) 

24/10/22

Gofynion Mynediad

Pum gradd A-C ar lefel TGAU neu’r Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol.

Bydd rhaid i chi gyflwyno portffolio o waith celf yn eich cyfweliad. Bydd myfyrwyr hŷn â’r sgiliau neu’r profiad perthnasol hefyd yn cael eu hystyried. Mae diddordeb yn y cyfryngau a chreadigrwydd hefyd yn hanfodol

Dull Addysgu’r Cwrs

Asesir y cwrs drwy asesiadau parhaus. Bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau yn unigol neu mewn timau, sydd â’r nod o atgynhyrchu arferion y cyfryngau proffesiynol. Mae rhai prosiectau yn cynnwys creu cynhyrchion y cyfryngau ar gyfer cleient. Caiff aseiniadau eu cyflwyno gan ddefnyddio’r system rheoli cyrsiau ar-lein.

Cyfleoedd Dilyniant

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn VFX a Graffeg Symudol 

Astudiaethau pellach yn y brifysgol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ffi stiwdio £25 ar gyfer y cwrs hwn.

Dilynwch ni ar Instagram: gcs.creativemedia

 

Lleoliad(au):
Gorseinon
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No