Safon Uwch Electroneg

Amser llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Byddwch yn astudio manyleb CBAC EDUQAS Safon Uwch Electroneg. Bydd y cwrs hwn yn datblygu’ch sgiliau mewn amrywiaeth o gyd-destunau damcaniaethol, ymarferol, diwydiannol ac amgylcheddol.  

Amcanion y Cwrs:  

  • Byddwch yn datblygu gwybodaeth wyddonol hanfodol ac yn deall cysyniadau a fydd yn eich helpu i ragfynegi ymddygiad cylchedau trydanol/electronig 
  • Byddwch yn datblygu sgiliau mewn gwaith ymarferol, gan gynhyrchu manyleb i ddatrys problem a gwerthuso eich gwaith eich hun 
  • Byddwch yn gallu cymhwyso gwybodaeth o gysyniadau electronig i’r byd o’ch cwmpas a gweld electroneg ar waith ym myd peirianneg 
  • Bydd y cwrs yn datblygu’ch diddordeb mewn electroneg, gan gynnwys datblygu diddordeb mewn astudiaethau pellach a gyrfaoedd cysylltiedig ag electroneg. 

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith 
  • Gradd B mewn TGAU Mathemateg a gradd C mewn TGAU Gwyddoniaeth 

Dull Addysgu’r Cwrs

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar waith ymarferol. Mae adeiladu a phrofi cylchedau electronig yn allweddol i ddeall sut mae systemau electronig yn gweithio. Bydd disgwyl i chi gynhyrchu’ch syniadau eich hun fel prosiectau gwaith gan gynnwys defnyddio iaith raglennu i reoli microreolyddion.  

Arholiadau:  

  • Cydran 1 – Egwyddorion Electroneg 40%  
  • Cydran 2 – Cymhwyso Electroneg 40% 
  • Cydran 3 – Dylunio a Gwireddu Systemau Estynedig 20% (Gwaith Prosiect) 

Tasg 1 – Tasg dylunio a rhaglennu i greu system microreoli wedi’i rhaglennu mewn iaith gydosod i ddatrys problem, angen neu gyfle a nodwyd.  

Tasg 2 – Tasg dylunio a gwireddu integredig sylweddol i greu system electronig i ddatrys problem, angen neu gyfle a nodwyd. 

Cyfleoedd Dilyniant

Mae myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Safon Uwch Electroneg yn gwneud cais am gyrsiau peirianneg yn y brifysgol fel Peirianneg Drydanol, Peirianneg Defnyddiau a Pheirianneg Fecanyddol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio microreolyddion i reoli ac ymateb i fewnbynnau ac allbynnau, a all arwain at ddiddordeb mewn cyrsiau sy’n cynnwys rhaglennu cyfrifiadurol. Oherwydd ei natur ymarferol, mae myfyrwyr hefyd wedi dewis gwneud prentisiaethau gyda chwmnïau electroneg. Gyda thechnolegau newydd yn cael eu dyfeisio bob blwyddyn, mae galw mawr am fyfyrwyr electroneg ar gyfer gyrfaoedd ledled y byd megis peiriannydd trydanol a thechnegydd trydanol. Nid yw rhai o’r swyddi y bydd myfyrwyr yn gwneud cais amdanynt yn bodoli eto!  

Cyflog cyfartalog peiriannydd trydanol yng Nghymru yw £41,274 gyda chyflog cychwynnol o £30,000. Mae 6,239 o’r swyddi hyn yn cael eu hysbysebu bob blwyddyn.  

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!