Skip to main content

Safon Uwch Ffiseg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o egwyddorion ffiseg a’u cymwysiadau i fyfyrwyr. 

Yn Safon UG Ffiseg mae dwy uned â thema: 

Uned 1: Mudiant, Ynni a Mater 

Mae’r uned hon yn ymdrin â phynciau ffiseg sylfaenol, cinemateg, dynameg, cysyniadau ynni, solidau dan ddiriant, defnyddio ymbelydredd i ymchwilio i sêr a gronynnau ac adeiledd niwclear. 

Uned 2: Trydan a Golau 

Mae’r uned hon yn ymdrin â dargludiad trydan, gwrthiant, cylchedau DC, natur tonnau, priodweddau tonnau, plygiant golau, ffotonau a laserau. 

Yn Safon Uwch Ffiseg mae dwy uned arall â thema sy’n cael eu hasesu ar ddiwedd ail flwyddyn yr astudiaeth. 

Uned 3: Osgiliadau a Niwclysau 

Mae’r uned hon yn ymdrin â phynciau mudiant cylchol, dirgryniadau, theori cinetig, ffiseg thermol, dadfeiliad niwclear ac ynni niwclear. 

Uned 4: Meysydd ac Opsiynau 

Mae'r uned hon yn ymdrin â chynhwysedd, meysydd grym electrostatig a disgyrchiant, orbitau a’r bydysawd ehangach, meysydd magnetig ac anwythiad electromagnetig. Yn CGA rydym yn addysgu’r opsiwn ffiseg chwaraeon. 
 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys gradd B mewn Saesneg Iaith, Mathemateg (haen uwch) a Gwyddoniaeth.

Theori, datrys problwmau a gwaith ymarferol. 

Asesu:  

UG: dau arholiad ysgrifenedig: 

  • Uned 1: 20% (50% o’r cymhwyster UG) 
  • Uned 2: 20% (50% o’r cymhwyster UG).

U2: Dau arholiad ysgrifenedig ac arholiad ymarferol: 

  • Uned 3: 25% 
  • Uned 4: 25% 
  • Uned 5 (arholiad ymarferol): 10%.

Ffiseg yw’r llwybr carlam i amrywiaeth eang o gyfleoedd. Mae cyflogwyr yn ystyried cymhwyster ffiseg mor werthfawr oherwydd mae’n dangos eich bod yn rhywun deallus, rhesymegol ac ymarferol.  

Mae Safon Uwch Ffiseg yn gymhwyster defnyddiol ac, yn amlach, hanfodol ar gyfer unrhyw gwrs technegol neu wyddonol yn y brifysgol, er enghraifft Ffiseg, Ffiseg Feddygol, Gwyddor Deunyddiau, Seryddiaeth, Meddygaeth, Gwyddor Hinsawdd, Peirianneg, Pensaernïaeth, Cyfrifiadureg, Cyfrifiadura Cwantwm.