Skip to main content

Safon Uwch Ffrangeg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae Safon Uwch Ffrangeg yn ddewis perffaith i ddysgwyr sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach o’r iaith Ffrangeg, ei diwylliant, a’i chymdeithas. Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedwar sgil iaith draddodiadol - siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - tra hefyd yn dod i gysylltiad ag agweddau diwylliannol gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i ymwneud â phynciau a materion cyfoes yn Ffrangeg. 

Mae’r cwrs hwn yn opsiwn gwych i’r rhai sydd am ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol o Ffrangeg, yn ogystal â’r rhai sydd angen defnyddio’r iaith ar gyfer astudio, gwaith neu hamdden. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bedwar pwnc (bod yn berson ifanc yn y byd Ffrangeg ei iaith, deall y byd Ffrangeg ei iaith, amrywiaeth a gwahaniaeth, Ffrainc 1940-1950). Trwy’r pynciau hyn byddwch yn datblygu eich rhuglder iaith a’ch gwybodaeth o’r byd Ffrangeg ei iaith.

 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gradd B yn Saesneg laith (argymhellir) yn ogystal â bod yn barod i gymryd rhan lawn mewn gwersi bywiog a diddorol.

  • Byddwch yn dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp, dadleuon, a gweithgareddau gwrando rhyngweithiol
  • Credwn mai dim ond yn ei hamgylchedd diwylliannol y gellir dysgu iaith, felly rydym yn defnyddio deunyddiau dilys fel llenyddiaeth, ffilmiau, cerddoriaeth a’r cyfryngau i ddeall cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac artistig gwledydd lle siaredir Ffrangeg. Bydd y myfyrwyr hefyd yn elwa drwy dreulio 30 munud ychwanegol yr wythnos gyda’r Cynorthwyydd Ffrangeg i ymarfer eu sgiliau llafar
  • Mae CBAC yn gosod yr arholiadau UG a Safon Uwch, sy’n cael eu sefyll yn yr haf. 

Mae ein myfyrwyr iaith wedi mynd ymlaen i gyrchfannau llwyddiannus, fel astudio Hanes a Ffrangeg yn Rhydychen, Ffrangeg a Rwsieg yng Nghaergrawnt a’r Gyfraith a Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerwysg a llawer mwy. Mae prifysgolion yn gwerthfawrogi’r sgiliau a ddatblygir gan ieithyddion ac mae llawer o gyrsiau prifysgol yn cyfuno’n dda iawn ag iaith. 

Mae cyflogwyr yn parchu ieithoedd yn fawr oherwydd eu gallu i arddangos cefndir diwylliannol eang, ynghyd â sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr megis cyfathrebu effeithiol, datrys problemau creadigol, a’r gallu i addasu. 

Gallech ddilyn gyrfaoedd mewn twristiaeth, newyddiaduraeth a marchnata busnes rhyngwladol neu’r cyfryngau cymdeithasol i enwi dim ond rhai. 

Ieithyddion enwog: 

  • Tom Hiddleston - Actor 
  • Huw Edwards – Newyddiadurwr 
  • JK Rawlings – Awdur 
  • Natalie Portman – Actores 
  • Gordon Ramsey – Pen-cogydd