Gwyddor Feddygol (Tystysgrif/Diploma Lefel 3)

Trosolwg o’r Cwrs

Gwyddor Feddygol yw’r wyddor o gynnal iechyd ac atal a thrin clefydau. Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn ymwneud â gofal iechyd ac ymchwil feddygol.

Mae gwyddonwyr meddygol ar flaen y gad ym maes gwasanaethau gofal iechyd, gan fod eu gwaith yn hanfodol wrth roi diagnosis o glefydau, canfod effeithiolrwydd triniaethau a chwilio am ffyrdd newydd o iachâd.

Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch yn astudio unedau yn y canlynol:

  • Anatomeg a ffisioleg dynol – deall y systemau organ gwahanol a sut mae ffordd o fyw a chlefyd yn gallu effeithio ar y rhain
  • Technegau mesur ffisiolegol – perfformio amrywiaeth o brofion ffisiolegol fel monitro pwysedd gwaed, cyflymder y galon, ECG a monitro llif anadl
  • Meddyginiaethau a thriniaethau clefydau – archwilio sut mae meddyginiaethau yn rhwyngweithio â systemau’r corff, ffocws penodol ar geneteg a thriniaethau canser.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyflawni’r Dystysgrif drwy gwblhau un arholiad gwerth 50% o’r raddau a dau asesiad di-arholiad 25%.

Ym mlwyddyn dau, byddwch yn gwneud arholiad ymarferol gan roi cyfle i chi gynnal ymchwiliad a gwerthuso data arbrofol.

20/10/22

Gofynion Mynediad

Saith TGAU gan gynnwys graddau C mewn mathemateg, Saesneg iaith a gwyddoniaeth.

Cyfleoedd Dilyniant

Mae’r cymhwyster hwn yn ategu dilyniant i amrywiaeth o rolau swyddi ym maes gofal iechyd, mewn gwyddorau bywyd (rolau labordy mewn diagnosteg a thriniaethau) a gwyddorau ffisiolegol, gan weithio’n uniongyrchol gyda chleifion.

Bydd Gwyddor Feddygol yn rhoi modd i chi symud ymlaen i’r brifysgol i astudio amrywiaeth o raglenni gwyddoniaeth gymhwysol, fel; gwyddor fiofeddygol, gwyddorau bywyd, gwyddor barafeddygol, nyrsio milfeddygol, ffisioleg feddygol, radiograffeg ddiagnostig.

Lleoliad(au):
Gorseinon
Cwrs ar gael yn Gymraeg:
No