Llwybrau

Amser llawn
Lefel Mynediad 2
ASDAN
Tycoch
36 weeks
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs blwyddyn, amser llawn hwn yn rhoi cyfle i’r dysgwr brofi cyflogaeth gyda chefnogaeth wrth weithio tuag at Dystysgrif ASDAN mewn Sgiliau Bywyd. Bwriad y cwrs yw helpu’r dysgwr i ddatblygu’r sgiliau personol a chymdeithasol sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i gyflogaeth.

Ochr yn ochr â’r prif gymhwyster, bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau unedau ychwanegol mewn llythrennedd, rhifedd a TG. Mae’r cwrs yn cynnwys pedwar diwrnod o wersi ar gampws Tycoch ac un diwrnod o brofiad gwaith ar y Rhaglen Datblygu Gwaith yn Fforestfach ATC. Yn ystod y cyfnod hwn, caiff y dysgwyr eu cyflwyno i sawl opsiwn swydd gan gynnwys cynnal a chadw gardd, cynlluniau cynnal a chadw yn y gymuned, cyfleoedd arlwyo ac amrywiol brosiectau ailgylchu ac amgylcheddol.

Diweddarwyd Tachwedd 2020

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol od bydd rhaid i fyfyrwyr ddod am gyfweliad cwrs a chwblhau asesiad cychwynnol ar-lein.

Dull Addysgu’r Cwrs

Nid oes unrhyw asesiadau arholi gosod, ond asesir gwaith cwrs ASDAN trwy gyflwyno portffolio sy’n cofnodi gweithgareddau ymarferol a phrofiadau wedi’u hategu gan dystiolaeth ysgrifenedig a ffotograffig.

Cyfleoedd Dilyniant

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall myfyrwyr archwilio’r posibilrwydd o waith rhan-amser pellach ar Raglen Datblygu Gwaith ATC a chael eu cyflwyno hefyd i’r amrywiol gyrsiau rhan-amser sydd ar gael yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol.

Gwybodaeth Ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Noel Davies ar noel.davies@gcs.ac.uk neu 01792 284000

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!