Skip to main content

Safon Uwch Mathemateg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Yn y cwrs hwn, byddwch yn cymryd rhan mewn astudiaeth gynhwysfawr o bynciau amrywiol. Bydd yr elfen Mathemateg Bur yn eich cyflwyno i geometreg, algebra a ffwythiannau, calcwlws a dadansoddi rhifiadol. Yn yr elfen Ystadegau byddwch yn astudio samplu ystadegol, cyflwyno a dehongli data, tebygolrwydd a dosraniadau ystadegol. Yn olaf, bydd Mecaneg yn ymdrin â chinemateg, deddfau Newton, fectorau, momentau, a hafaliadau gwahaniaethol. 

Amcanion y Cwrs: 

  • Datblygu dealltwriaeth ddofn o wahanol feysydd mathemateg a sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd
  • Ehangu eich sgiliau a thechnegau mathemategol, gan eich galluogi i ddatrys problemau mwy cymhleth a distrwythur
  • Gwella eich galluoedd rhesymu rhesymegol, gan ganiatáu i chi nodi rhesymu anghywir, cyffredinoli, a llunio prawf mathemategol
  • Ennill sgiliau sy’n berthnasol i archwilio a dadansoddi setiau data mawr, a dehongli data a gyflwynir ar ffurf gryno neu graffigol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg laith
  • Gan gynnwys A mewn TGAU Mathemateg o’r Haen Uwch (byddwn yn ystyried gradd B o’r haen uwch)

  • 4.5 awr o oriau darlithio yr wythnos  
  • Gwaith cartref wythnosol 
  • Asesiad dosbarth bob hanner tymor 
  • UG Uned 1:  Mathemateg Bur A (2 awr 30 munud)      
  • UG Uned 2:  Mathemateg Gymhwysol A (1 awr 45 munud)  
  • U2 Uned 3:  Mathemateg Bur B (2 awr 30 munud)      
  • U2 Uned 4:  Mathemateg Gymhwysol B (1 awr 45 munud) 

Gyda Safon Uwch Mathemateg, gallech fynd ymlaen i yrfaoedd llewyrchus mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys: 

  • Dadansoddwr ariannol 
  • Rhaglennydd cyfrifiadurol 
  • Gwyddonydd meddygol 
  • Actiwari 
  • Datblygwr meddalwedd 
  • Economydd 
  • Dadansoddwr data neu ymchwil 
  • Cyfrifydd 
  • Athro/Athrawes

Mae’r set sgiliau amlbwrpas a’r galluoedd datrys problemau a ddatblygir trwy Safon Uwch Mathemateg yn darparu sylfaen gref ar gyfer llwyddiant yn y proffesiynau amrywiol a diddorol hyn. P’un a ydych yn dewis mentro i faes cyllid, technoleg, gofal iechyd, addysg, neu feysydd eraill, mae’r posibiliadau’n eang ac yn addawol gyda Safon Uwch Mathemateg. 

Bydd angen arnoch gyfrifiannell Peirianneg Uwch/Wyddonol CASIO FX-991EX. Gellir prynu’r rhain o’r Llyfrgell ar Gampws Gorseinon. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd i sefyll arholiadau Heriau UKMT, Sêr Mathemateg a STEP/MAT.