Mynediad i Blismona

Amser llawn, Mynediad
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Newydd ar gyfer Medi 2023

Bwriedir y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr hŷn (19+) a hoffai ddilyn gyrfa ym maes plismona a’r sector gwasanaethau cyhoeddus ehangach.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhywun a hoffai symud ymlaen i Addysg Uwch (Plismona Proffesiynol) ond nad yw’n bodloni’r gofynion mynediad academaidd ar hyn o bryd.

Mae’r diploma Mynediad i Blismona yn Rhaglen Lefel 3 ddwys a addysgir mewn un flwyddyn academaidd ac mae’n cyfwerth a thri chymhwyster Safon Uwch. Mae’r cwrs hwn yn cael ei addysgu gan aelodau profiadol o staff sydd â chysylltiadau cryf â diwydiant a darparwyr addysg uwch lleol, ac mae’n darparu’r llwyfan perffaith i’r rhai sydd â diddordeb angerddol mewn plismona a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach i symud ymlaen i’r brifysgol.

Mae'r cwrs hwn yn bodloni gofynion manyleb genedlaethol y Coleg Plismona ar gyfer cwrs allanol.

10/2/23

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Isafswm oedran y dysgwr yw 19 oed. Er nad oes unrhyw ofynion mynediad academaidd ffurfiol, mae gradd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg yn ddymunol. Bydd pob ymgeisydd yn cael cyfweliad a bydd angen cwblhau asesiad mynediad. Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr os yw llwybrau Lefel 3 amgen yn fwy priodol i’w nodau, neu byddant yn cael eu cyfeirio i gwblhau ein Diploma L2 Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach os oes angen datblygiad academaidd pellach.

Efallai y bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu cynghori yn y lle cyntaf i ystyried ein rhaglen (Cyn-fynediad) ran amser Paratoi ar gyfer Dysgu er mwyn eu paratoi ymhellach a chynghori ar eu haddasrwydd i astudio ar y cwrs Diploma Lefel 3 Mynediad i Blismona.

Dull Addysgu’r Cwrs

Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau sgiliau gorfodol a phenodol i’r pwnc:

Enghreifftiau o unedau penodol i’r pwnc:

  • Cyflwyniad i blismona modern
  • Grymoedd yr heddlu
  • Ymddygiadau proffesiynol yn yr Heddlu
  • Plismona sy’n canolbwyntio ar broblem
  • Seicoleg droseddol
  • Diogelu safle trosedd
  • Mynediad i brosiect ymchwiliol AU (prosiect ymchwil)

Enghreifftiau o unedau sgiliau gorfodol:

  • Cymhwsyo mathemateg ar gyfer yr Heddlu
  • Sgiliau academaidd

Bydd dulliau asesu yn cynnwys amrywiaeth o waith prosiect ac aseiniad, traethodau, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil a phrofion. Bydd gofyn i chi gadw ffeil eich cwrs i’r safon ofynnol ar gyfer y corff dyfarnu.

Mae’r cwrs yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad i’r unedau amrywiol a asesir yn barhaus er mwyn eu cwblhau’n llwyddiannus.

Bydd dysgwyr yn dod i’r Coleg 12 awr yr wythnos am 32 wythnos (dyddiadau ac amserau i’w cadarnhau). Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddod i bob sesiwn ac ymgymryd ag astudio annibynnol sylweddol.  Rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn cyflawni’r cymhwyster.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i’r brifysgol i astudio pynciau fel plismona proffesiynol a throseddeg, neu Brentisiaeth Gradd Cwnstabl Heddlu (PCDA).

Gwybodaeth Ychwanegol

Ffi weinyddol £40

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!