Cyn-fynediad i Addysg Coleg
Arolwg
Mae’r cwrs Cyn-fynediad i Addysg Coleg yn addas i ddysgwyr sy’n gadael yr ysgol ac sydd efallai ar y Sbectrwm Awtistig neu y mae angen cymorth arnynt i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu.
Mae’r cwrs yn cynnig cyflwyniad i’r Coleg gyda chyfle i ddysgwyr flasu amrywiol sesiynau galwedigaethol a nodi sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i gyrsiau Lefel 1 yn y Coleg. Bydd ymgynghorwyr gyrfa arbenigol yn eich helpu i ddewis cwrs addas. Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau hanfodol (cyfathrebu a rhifedd) ymhellach a gweithio tuag at ennill cymhwyster OCR Mynediad 2/3 mewn sgiliau bywyd.
Bob tymor bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o opsiynau blasu yn y Coleg, gan gynnwys pynciau megis peirianneg, celf, gwallt a harddwch, a chwaraeon.
Diweddarwyd Hydref 2016