Skip to main content

Paratoi at Waith

Amser-llawn
Lefel Mynediad 2
ASDAN
Tycoch
36 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs Paratoi at Waith yn cynnwys prif gymhwyster a achredir gan gorff dyfarnu ASDAN (Rhwydwaith Datblygu ac Achredu Cynlluniau Dyfarnu). Mae’r cwrs wedi’i seilio ar gymhwyster Mynediad Lefel 2 mewn Cyflogadwyedd a’i nod yw dechrau datblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr i baratoi i symud ymlaen i ddechrau gweithio yn y pen draw neu barhau yn y Coleg.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer y cwrs hwn ond, bydd myfyrwyr wedi symud ymlaen i’r cwrs hwn o’r cwrs Cyflwyniad i Addysg Bellach. Gall myfyrwyr hefyd wneud cais am y cwrs hwn, ond byddant yn cael cyfweliad yn ogystal ag asesiad cychwynnol.

Mae myfyrwyr yn cael cyfle i fyfyrwyr ennill cymwysterau mewn rhifedd a chyfathrebu sy’n bwysig ym mhob maes ar gyfer dyfodol y myfyrwyr. Mae’r dosbarthiadau hyn yn orfodol a byddant yn cael eu datblygu’n barhaus tra bydd y myfyriwr gyda ni yn y Coleg. Mae cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi yn cychwyn ar gyrsiau dewisol prynhawn Gwener, lle bydd gan fyfyrwyr yr opsiwn i ddewis gweithgaredd fel chwaraeon, celf, dawns, harddwch a llawer mwy. Nid yw’r gweithgareddau cyfoethogi hyn yn dod i ben gyda sesiwn prynhawn o wahanol brofiadau – maen nhw hefyd yn cynnwys parti Nadolig y myfyrwyr, dawns diwedd blwyddyn (a gynhelir yng Ngwesty’r Marriott) a digwyddiadau traws-golegol eraill fel Ffair y Glas a’r Ffair Amrywiaeth. Mae’r staff yn ymdrechu i sicrhau bod y myfyrwyr yn cymryd rhan ym mhrofiad llawn y Coleg. Yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol rydym yn ymdrechu i addysgu’r myfyriwr ‘cyfan’, gan gynnig cyfle iddo dyfu fel unigolyn yn ystod ei gyfnod gyda ni. Trwy sesiynau damcaniaethol ac ymarferol yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi, nod y cwrs yw helpu i ddatblygu’r myfyriwr cyfan a rhoi cyfle iddo gael profiadau newydd y gall eu trosglwyddo i sefyllfaoedd eraill e.e. Sgiliau Teithio a Manwerthu lle bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i fagu hyder yn ogystal â dysgu sgiliau y gellir eu defnyddio y tu allan i’r Coleg. Nid yn unig y bydd myfyrwyr yn astudio prif Gymhwyster Cyflogadwyedd ASDAN byddant hefyd yn astudio cymwysterau eraill a fydd yn helpu i’w datblygu fel unigolion megis (gall y pynciau hyn newid): Gweithio gydag Eraill; Archwilio Cyfleoedd Swyddi; Cynllunio ac Adolygu Dysgu; Sgiliau Teithio; Gwasanaeth Cwsmer; Hawliau a Chyfrifoldebau yn y Gweithle; Dysgu Trwy Brofiad Gwaith a Chyfathrebu ag Eraill yn y Gwaith.

Ar ôl cwblhau’r cwrs Paratoi at Waith yn llwyddiannus, gallai myfyrwyr symud ymlaen i gwrs Mynediad Lefel 2 neu 3.