Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn (cyfwerth â thair Safon Uwch) yn canolbwyntio’n bennaf ar beirianneg fecanyddol. Mae’n gymhwyster a gydnabyddir gan ddiwydiant sy’n rhoi’r sgiliau academaidd ac ymarferol sydd eu hangen arnoch ar gyfer nifer o ddiwydiannau peirianneg modern.
Mae rhai meysydd astudio’n cynnwys:
- Mathemateg peirianneg
- Egwyddorion mecanyddol a thrydanol e.e. ffiseg
- Egwyddorion cynnal a chadw
- Gwyddor deunyddiau
- Niwmateg
- Cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur
- Weldio a pheiriannu.
23/01/23
Gofynion Mynediad
O leiaf bum gradd TGAU, yn ddelfrydol gyda B mewn Mathemateg.
Dull Addysgu’r Cwrs
Gall dysgwyr ddewis astudio cwrs Safon Uwch perthnasol ychwanegol ochr yn ochr â’r rhaglen i wella eu mynediad i fynd i brifysgolion.
Cyfleoedd Dilyniant
Gallwch symud ymlaen i ystod eang o raglenni gradd neu brentisiaethau gradd sy’n arwain at yrfaoedd gan gynnwys peirianneg fecanyddol, drydanol, electronig a sifil. Mae llawer o’n cyn-ddysgwyr wedi cyflawni statws Peiriannydd Siartredig ac wedi sicrhau cyflogaeth gyda chyflogwyr o fri fel Fformiwla Un, British Airways a GE Aviation.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech ddewis y cwrs HND mewn Peirianneg Drydanol neu Beirianneg Fecanyddol.