Skip to main content

Safon Uwch Llenyddiaeth Saesneg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Byddwch yn datblygu’r gallu i ddadansoddi gwahanol destunau a gwneud cysylltiadau rhyngddynt. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i’r ffactorau cyd-destunol sy’n llywio ysgrifennu a darllen testun. 

Byddwch yn astudio ystod eang o destunau gan gynnwys Jane Eyre gan Charlotte Bronte, A Streetcar Named Desire gan Tennessee Williams, barddoniaeth Edward Thomas ac Alun Lewis, King Lear gan Shakespeare a The Colour Purple gan Alice Walker. 

Amcanion: 

  • Datblygu diddordeb a mwynhad o Lenyddiaeth Saesneg trwy ddarllen yn eang 
  • Datblygu a chymhwyso gwybodaeth am ddadansoddi a gwerthuso llenyddol yn effeithiol 
  • Archwilio cyd-destunau’r testunau rydych chi’n eu darllen a dehongliadau eraill ohonyn nhw.

Canlyniadau: 

  • Byddwch yn gallu ymateb yn ddeallus i ystod eang o destunau 
  • Byddwch yn deall y ffactorau cyd-destunol sy'n dylanwadu ar awdur 
  • Byddwch yn gallu cwblhau astudiaeth annibynnol o destunau llenyddol.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Mae gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith a Saesneg Llenyddiaeth yn hanfodol 

Bydd asesiadau yn cynnwys aseiniadau wedi’u hamseru, cyflwyniadau a ffug arholiad adeg y Nadolig. 

Yn Safon UG: 

  • Uned  1 – Rhyddiaith a Drama – arholiad  
  • Uned  2 – Barddoniaeth Ôl -1900 – arholiad 

Yn Safon Uwch:

  • Uned  3 – Barddoniaeth cyn 1900 – arholiad
  • Uned  4 – Shakespeare – arholiad  
  • Uned  5 – Astudio Rhyddiaith – Asesiad di-arholiad. Traethawd 3,000 o eiriau sy’n cymharu nofel a ysgrifennwyd cyn 2000 â nofel a ysgrifennwyd wedyn. 

Mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys astudio yn y brifysgol a gyrfaoedd sy’n gofyn am lefel uchel o hyder wrth gyfathrebu naill ai ar lafar neu drwy ysgrifennu. Gall y rhain gynnwys ysgrifennu creadigol, newyddiaduraeth, hysbysebu a chyfathrebu neu addysgu.