Skip to main content

Gradd Sylfaen mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

Amser-llawn
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymbaratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol, sef un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, gyda Chymru yn cael ei chydnabod yn eang erbyn hyn fel canolfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau. Mae hefyd yn gartref i glwstwr technoleg ddigidol sy’n tyfu. Gallai llwybrau gyrfa posibl gynnwys effeithiau gweledol, y cyfryngau digidol, teledu, ffilm ac animeiddio.

Diweddarwyd Rhagfyr 2022

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad:

Pwyntiau tariff UCAS - 48

Safon Uwch DD-EE

BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol L3 - PPP

Mynediad i AU - Pas

BTEC Diploma Cenedlaethol L3 - MP

Gofynion Mynediad Ychwanegol – cyfweliad a chyflwyno portffolio

Addysgir y cwrs trwy ddarlithoedd ac fe’i hasesir trwy brosiectau ymarferol, adroddiadau, cyflwyniad a chymhwysiad ymarferol.

Modiwlau Blwyddyn un, Lefel 4:

  • Astudiaethau Cyd-destunol: Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
  • Hanfodion Caffael Delweddau
  • Hanfodion Gwneud Ffilmiau
  • Sain a Llun
  • Sylfeini CG
  • Cynhyrchu Graffeg Symudol.

Modiwlau Blwyddyn dau, Lefel 5:

  • Lleoliad Gwaith Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
  • Arferion Proffesiynol: Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
  • Astudiaethau Beirniadol: Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
  • Amgylcheddau
  • FX Dynamics

Gall myfyrwyr ychwanegu at eu cymhwyster trwy ddilyn y radd lawn ym Mhrifysgol De Cymru.

Bydd y cwrs hefyd yn cefnogi myfyrwyr sydd am ddilyn y gyrfaoedd canlynol: 

Gwneuthurwr Ffilmiau, Golygydd Ffilmiau, Cynhyrchydd VFX, Golygydd VFX, Goruchwyliwr CG, Artist 3D, Animeiddiwr, Artist Tecstilau,  Artist yr Amgylchedd, Cyfarwyddwr  Rigio, Cyfarwyddwr Goleuo, Cyfarwyddwr Effeithiau, Cysodwr, Artist Roto, Artist Pre Vis, Artist Cysyniad, Dylunydd Gemau, Golygydd Sain.  

How to apply?

Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS VE28)

Cliciwch yma i wneud cais

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://celt.southwales.ac.uk/recognition-prior-learning/

Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw £7,500* y flwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer Cymru i’w gweld yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk 

*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 a gallent newid ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Gweler gwefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth. 

Gallech gael bwrsari Coleg o £1,000 y flwyddyn (yn amodol ar ddilyniant boddhaol). 

Gallai fod costau ychwanegol yn gysylltiedig â’r cwrs hwn e.e.: 

  • teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad 
  • costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cardiau cof) 
  • argraffau a rhwymo 
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio 

Mae gan fyfyrwyr fynediad i amrywiaeth eang o adnoddau gan gynnwys gwerslyfrau, cyhoeddiadau a chyfrifiaduron yn llyfrgell y Coleg a mynediad i rai adnoddau Prifysgol De Cymru. Yn y rhan fwyaf o achosion maen nhw’n fwy na digon i gwblhau cwrs astudio.

Os bydd costau ychwanegol, naill ai’n orfodol neu’n ddewisol, nodir y rhain isod. Wrth gwrs, gall myfyrwyr ddewis prynu eu hadnoddau / hoffer personol ychwanegol eu hunain yn ychwanegol at y rhai a restrir i ategu eu hastudiaethau. Bydd y myfyrwyr yn talu am gostau argraffu a deunydd ysgrifennu.

* Nid yw’r costau a restrir yn orfodol.

£900 - Apple Macbook neu iMac
£500 – SLR Digidol gyda lensys
£50 - WD neu yriant caled cyfwerth
£50 – Llechen Wacom
£15 - Cost bob mis – tanysgrifiadau Adobe 
£500 – Gwibdeithiau maes posibl (cewch ddigon o rybudd o unrhyw wibdaith a drefnir, nid yw’r rhain yn rhan hanfodol o’r cwrs ac ni fydd myfyrwyr o dan anfantais os na ddeuent)