Dau fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio medalau Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli!


Diweddarwyd 17/09/2021

Mae dau fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe – Phyllis Gregory a Wilnelia De Jesus – wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli!, sy’n dathlu dysgu gydol oes.

Wilnelia De Jesus

Llwyddodd Wilnelia i godi drwy rengoedd cwmni cyfreithiol Greenaway Scott i ddod yn Rheolwr Practis a hithau yn ddim ond 21 oed, er iddi adael yr ysgol ar ôl ei harholiadau TGAU i gefnogi ei theulu un rhiant.

Wrth weithio yn y rôl, dechreuodd brentisiaeth Arweinyddiaeth a Rheolaeth, gan lywio’r grŵp sy’n werth miliynau o bunnau drwy heriau gweithredol y pandemig. Fe wnaeth hi ragori ar y brentisiaeth, ac ers hynny mae hi wedi cwblhau cymhwyster Rheoli Prosiectau a bydd hi bellach yn cofrestru ar gwrs Diploma Lefel 5 mewn Rheoli.

Enillodd Wilnelia y Wobr Oedolyn Ifanc: “Gobeithio bydd fy stori yn gallu dangos i bobl ifanc groenliw eraill i anwybyddu stereoteipiau gyrfa. Gallwch wneud unrhyw beth a ddymunwch os ydych yn barod i weithio’n ddigon caled. Ces i fy magu mewn cartref Portiwgaleg ei iaith, roedden ni’n bwyta bwydydd o Bortiwgal, gwylio rhaglenni teledu Portiwgaleg a gwrando ar gerddoriaeth o Bortiwgal. Weithiau, roedd yn teimlo fel rhwystr cyfathrebu yn yr ysgol gynradd. Serch hynny, rydw i nawr yn sylweddoli bod dwyieithrwydd yn fantais enfawr.”

“Roedd yn fedydd tân. Doedd hi ddim yn rhwydd ymdopi gyda swydd amser llawn – ac yn aml ddwys iawn – a chymhwyster heriol. Roedd gen i lawer o amheuon ar y dechrau – roeddwn i’n ei chael yn anodd credu ynof fi fy hun a chael cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd. Wnes i ddal ati, a dwi mor falch fy mod i wedi gwneud hynny.”

“Er nad ydw i wedi dilyn y llwybr addysgol traddodiadol sef cyrsiau Safon Uwch neu brifysgol, dwi wedi bod yn ffodus i gael cymorth gwych yn y gwaith. Rydw i’n mynd i barhau i ddysgu, dwi ddim wedi dod mor bell â hyn i roi’r gorau iddi nawr. Mae gwybodaeth yn rym, felly beth bynnag y galla i ei wneud i wella fy hun a chyrraedd y lefel nesaf – fe wna i hynny. Dwi’n wirioneddol falch o fod yn berson croenliw sy’n llwyddo yn y sector yma.”

​​​​​​​Phyllis Gregory

Fe wnaeth Phyllis Gregory, dysgwr Llythrennedd Digidol yng Ngoleg Gŵyr Abertawe sy’n 93 blwydd oed, gipio’r Wobr Heneiddio’n Dda. Mae Phyllis bob amser wedi bod â diddordeb angerddol mewn ysgrifennu a barddoniaeth, ac mae wedi ennill nifer fawr o gystadlaethau yn ystod ei hoes.

​​​​​​​Pan ddechreuodd ddioddef o syndrom llaw crynu, darganfyddodd Phyllis na fedrai ysgrifennu barddoniaeth gyda’i dwylo rhagor. Yn benderfynol o ddal ati i wneud y peth a garai, gwelodd Phyllis y cyfle i ddysgu defnyddio cyfrifiadur a chofrestrodd ar gwrs Llythrennedd Digidol gyda Choleg Gŵyr Abertawe.

“Mae pobl yn credu unwaith y cewch chi eich tocyn bws am ddim, mai dyna hi. Ond fi yw’r math o berson sy’n methu eistedd yn llonydd, dwi’n hoffi gwneud pethau. Roedd ymuno â’r cwrs yn codi ofn arna i, ond roedd y tiwtoriaid yn wych ac fe wnaethon nhw roi croeso mawr i mi. Ces i bob cymorth posib ganddyn nhw. Roedd yn brofiad difyr iawn.

“Dwi wedi cael fy ngeiriau yn ôl, sy’n wych, ond dwi i hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd. Mae fy nghlyw wedi gwaethygu’n ddiweddar ond mae’r Coleg a fy ffrindiau newydd wedi gwneud yn siŵr y galla i barhau i ddysgu. Mae fy nhiwtor Ruth Benson yn llawn amynedd a chydymdeimlad. Mae wedi ei gwneud yn bosibl i mi ddal ati – dwi mor ddiolchgar iddi.

​​​​​​​Mae Phyllis wir yn ymgorffori’r hyn y mae dysgu gydol oes yn ei gynrychioli. Yn ôl ei thiwtor, Ruth Benson: “Mae Phyllis yn fwy na myfyriwr Llythrennedd Digidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae hi hefyd, mewn gwirionedd, yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.”

Gallwch chi wylio’r Seremoni Wobrwyo yma.​​​​​​​

Tags: