#ByddwchYnBarod ar gyfer y tymor arholiadau ac asesiadau
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe rydyn ni eisiau i chi deimlo eich bod yn cael digon o gymorth yn ystod y tymor arholiadau ac asesiadau a thu hwnt.
Rydyn ni wedi casglu adnoddau i’ch helpu i baratoi nawr, a rhai enghreifftiau o sut y byddwn ni’n eich cynorthwyo fel un o’n dysgwyr.

Eich cynorthwyo chi drwy arholiadau TGAU
Awgrymiadau, cyngor a gwybodaeth i’ch arwain drwy’r tymor arholiadau ac asesiadau ac ymlaen i’r lefel nesaf yn eich bywyd.
Lefel nesa!Mae Llywodraeth Cymru wedi creu hyb cynnwys gyda phopeth sydd angen i chi ei wybod i’ch arwain drwy dymor arholiadau ac asesiadau 2022. |
![]() |

Paratoi ar gyfer Coleg
Dysgu rhyngweithiol i’ch helpu i baratoi ar gyfer astudio yn y Coleg, yn ogystal â theithiau Realiti Rhithwir, cyngor ar les a mwy.
Mae Openclass yn borth lle gallwch ddod o hyd i adnoddau i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich cwrs newydd yng Ngholeg Gŵyr Aberetawe. Mae’n cynnwys dysgu rhyngweithiol, darllen pellach, adnoddau i’ch helpu i wella’ch sgiliau digidol a lles, a theithiau realiti rhithwir o gwmpas y Coleg.

Cynorthwyo ein myfyrwyr
Darganfod y ffyrdd y byddwn ni’n eich cynorthwyo fel myfyriwr pan fyddwch chi’n astudio gyda ni.
Mae gennym amrywiaeth o gymorth ar gyfer y tymor arholiadau ac asesiadau i’r rhai sy’n penderfynu astudio gyda ni:
- Adnoddau astudio a lles ar Moodle
- Gwasanaethau llyfrgell
- Adnoddau a gweithgareddau Lles CGA
- Hyb cynnwys Lefel Nesa! Llywodraeth Cymru