Trosolwg o’r Cwrs
Hyd: Dwy flynedd
Bydd y cwrs hwn yn rhoi llwybr dilyniant clir i ddysgwyr Lefel 3 sydd wedi astudio Troseddeg a meysydd cysylltiedig. Dyluniwyd y cwrs i ehangu mynediad i’r maes hwn trwy ddarparu sylfaen sgiliau eang gan gynnwys datblygu sgiliau yn y gwaith, ar ôl cwblhau lleoliad gwaith mewn maes cysylltiedig e.e. Gwasanaethau Prawf, Timau Troseddau Ieuenctid a Cham-drin Cyffuriau ac Alcohol. Mae hon yn rhaglen ddelfrydol ar gyfer dysgwyr a hoffai astudio mewn amgylchedd bach â chymorth.
Diweddarwyd Medi 2020
Gofynion Mynediad
Meini Prawf Mynediad: |
Tariff UCAS - 48 pwynt |
Safon Uwch - DD/EEE |
Pearson BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 - PPP |
Mynediad i Ddiploma AU - Pas |
Pearson BTEC Diploma Cenedlaethol Lefel 3 - MP |
Dull Addysgu’r Cwrs
Asesir y cwrs trwy aseiniad, cyflwyniad, astudiaethau achos, arholiadau ac ymchwil mewn lleoliad seiliedig ar waith. Mae’r cwrs yn cynnwys modiwlau lleoliad.
Mae modiwlau’n cynnwys:
Lefel 4:
- Deall Trosedd, Dioddefwyr a Chymdeithas
- Deall Cyfiawnder Troseddol
- Theori Droseddegol
- Cyfraith Trosedd
- Iechyd Meddwl a Lles
- Ymchwilio i Drosedd a Chyfiawnder Troseddol 1
Lefel 5 (Blwyddyn 2):
- Dulliau Ymchwil ac Ystadegau
- Materion Cyfoes a Chamddefnyddio Sylweddau
- Cyfiawnder Troseddol a Chymdeithasol yn y Gymuned
- Systemau a Ffynonellau Cyfreithiol
Cyfleoedd Dilyniant
Gallech symud ymlaen i Brifysgol De Cymru i gwblhau’r drydedd flwyddyn ac, felly, y radd lawn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw £7,500 y flwyddyn. Gwybodaeth bellach ar gyfer Cymru: http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Bwrsari Coleg £1,000 y flwyddyn (yn amodol ar ddilyniant boddhaol).
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio
- £44 tuag at wiriad DBS sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs
Cod UCAS: LM3M
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.