Mae Ffordd y Brenin yn gartref i raglen gyflogadwyedd amrywiol iawn i bobl ifanc ac oedolion, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, ac i rai o gyrsiau ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) y Coleg.

Fe’i lleolir yng nghanol y ddinas ac mae’n lle croesawgar a bywiog ag iddo ymdeimlad gwahanol iawn i gampysau eraill y Coleg. Mae’n hygyrch iawn, mae ganddo gysylltiadau cludiant cyhoeddus da a sawl maes parcio gerllaw.

Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth i bobl yn ardal Abertawe sy’n chwilio am gyflogaeth newydd neu well cyflogaeth. Rydym hefyd yn cynorthwyo busnesau lleol sy’n ceisio datblygu ac ehangu eu gweithluoedd.

Ewch i’n gwefan am wybodaeth ddiweddar a defnyddiol i’n holl gleientiaid, gan gynnwys swyddi gwag cyfredol, cyngor defnyddiol gan ein Hyfforddwyr Gyrfa, ac erthyglau ymchwil at ddibenion busnesau gan ein tîm o Ymgynghorwyr Gweithlu arbenigol. Ynghyd â manylion cyswllt hanfodol, mae ganddi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall sut mae’r rhaglen yn gweithio ac, yn bwysicaf oll, sut gallwn ni helpu eich busnes chi.

Sut i ddod o hyd i Ganolfan Ffordd y Brenin

Canolfan Ffordd Y Brenin, Llawr 1af
37 Ffordd y Brenin
Abertawe SA1 5LF

Ffôn: 01792 284450

Oriau Agor

Dydd Llun i ddydd Iau: 9.30am-4.30pm
Dydd Gwener: 9.30am-3.30pm