Mae dysgu iaith newydd, neu wella'r sgiliau sydd gennych, yn ddiddorol ac yn ysgogol. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyrsiau Safon Uwch amser llawn yn Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg a Sbaeneg. Ar ôl astudio'r cyrsiau hyn mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i brifysgolion ledled y DU a thramor.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs rhan-amser, cynigiwn gyrsiau Ffrangeg i Ddechreuwyr a Sbaeneg i Ddechreuwyr yn ogystal â modiwlau Ffrangeg amrywiol ar-lein.
Dylai'r rhai sydd am astudio cwrs Cymraeg fynd i http://www.swansea.ac.uk/learnwelsh/.
Chwilio am gwrs Ieithoedd
Penderfynais i ymuno â’r dosbarth Sbaeneg i Ddechreuwyr oherwydd bod gennym eiddo yn Sbaen a hoffwn allu siarad â phobl yn well pan fyddwn ar ein gwyliau. Dw i’n edrych ymlaen at fynd bob wythnos a dw i wedi cwrdd â phobl wych yn y dosbarth. Byddwn i’n ei argymell yn gryf! "
Tracey Glover, Sbaeneg i Ddechreuwyr.
