Mae eich llyfrgell y rhan bwysig o’ch bywyd Coleg. Er nad ydym yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb, gallwch gael gafael ar ein llyfrau ar-lein trwy ddefnyddio’n gwasanaeth Clicio a Chasglu. Trwy wneud hyn, gallwch gyrchu ein hystod eang o adnoddau electronig, gan gynnwys eLyfrau, eGyfnodolion, eBapurauNewydd a chronfeydd data arbenigol. Bydd ein tîm ymroddedig o Gynghorwyr Llyfrgell yn parhau i gynnig cymorth ichi gyda’ch astudiaethau ar Teams, Office 365 neu e-bost.
Dysgwch fwy am wasanaethau ac adnoddau ein Llyfrgell isod.
Yr hyn mae ein myfyrwyr yn ei ddweud
Mwy na llyfrgell
- Lleoedd dysgu hyblyg
- Mynediad i gyfrifiaduron personol, cael benthyg gliniaduron, argraffu a chopïo
- Amrywiaeth eang o adnoddau
- Sesiynau sgiliau llyfrgell mewn grwpiau
- Wifi am ddim
- Staff gwybodus a chefnogol
- Cymorth un i un drwy’ch taith ymchwil
- Mynediad 24/7 i adnoddau electronig
- Parthau dysgu y gellir eu neilltuo
- Siop bapurach
Eich llyfrgelloedd

Tycoch
01792 284133

Gorseinon
01792 890731

Llwyn Y Bryn
01792 284335

University Centre (Tycoch)
01792 284172
E-bost: library@gowercollegeswansea.ac.uk
Cwestiynau am y Llyfrgell
Ydw i’n gallu defnyddio’r Llyfrgell?
Nid yw myfyrwyr ar hyn o bryd yn gallu defnyddio cyfleusterau’r Llyfrgell. Gallwch gasglu Cardiau Adnabod a Chlicio a Chasglu llyfrau cadw yn unig.
Bydd myfyrwyr Canolfan y Brifysgol yn cael rhai dosbarthiadau yn eu llyfrgell.
Sut ydw i’n benthyg llyfrau?
Rydym yn cynnig gwasanaeth Clicio a Chasglu, lle gallwch gadw llyfrau ar-lein. Ewch i Chwilio’r Llyfrgell ar Moodle, a byddwch yn cael opsiwn i gadw llyfr trwy fewngofnodi gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair Coleg. Byddwch yn derbyn ebost pan fydd eich eitemau’n barod i’w casglu. Bydd modd ichi eu casglu o gampws eich Llyfrgell.
Sut ydw i’n dychwelyd llyfrau?
Gallwch ddychwelyd llyfrau i Flwch Dychwelyd dynodedig eich Campws. Yn Nhycoch, mae’r blwch wedi ei leoli ger y brif dderbynfa. Mae blwch Gorseinon, Llwyn y Bryn a Chanolfan y Brifysgol wedi’i leoli y tu allan i’r Llyfrgelloedd
Ydw i’n gallu adnewyddu dyddiad dychwelyd fy llyfrau gartref?
Gallwch adnewyddu dyddiad dychwelyd eich llyfrau drwy fynd i Chwilio’r Llyfrgell ar Moodle. Defnyddiwch eich manylion Coleg i fewngofnodi.
Oes gen i fynediad at e-Lyfrau?
Oes, gallwch ddod o hyd i e-Lyfrau drwy ddefnyddio Chwilio’r Llyfrgell ar Moodle. Cliciwch Darllenwch fi a mewnbynnwch eich manylion mewngofnodi. Efallai hefyd y byddwch yn dod o hyd i e-Lyfrau perthnasol ar dudalen Moodle eich Cwrs.
Ydw i’n gallu cyrchu unrhyw adnoddau electronig eraill?
Ydych, mae gennym adnoddau electronig megis e-Lyfrau, e-Gyfnodolion, cronfeydd data arbenigol a Theledu CGA ar gael ar y Llyfrgell Ar-lein/e-Adnoddau 24/7 . Bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch manylion Coleg i ddefnyddio’r adnoddau.
Ydw i’n gallu cael cymorth gan y Llyfrgell?
Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnig cymorth wnyeb yn wyneb, dim ond cefnogaeth ar-lein gydag un o’n Ymgynghorwyr Llyfrgell. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â nhw trwy eich Tîm Cwrs neu ar Office 365 drwy ddefnyddio Bwcio Llyfrgellydd. Yno hefyd fe allwch gael gafael ar restr o’r holl feysydd y gallwn eich cefnogi chi gyda nhw.
Sut ydw i’n cysylltu â’r Llyfrgell?
Gallwch gysylltu â’ch llyfrgell drwy e-bostio library@gcs.ac.uk neu ffonio:
Llyfrgell Tycoch: 01792 284133
Llyfrgell Gorseinon: 01792 892231
Llyfrgell Canolfan y Brifysgol: 01792284072
Llyfrgell Llywn y Bryn: 01792 284335
Rydyn ni hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook (Gower College Swansea Library Services), Twitter (GCSLibrary) ac Instagram (gowercollege_library).
Hoffi ni ar Facebook
