Iechyd Meddwl

Yn gyffredinol mae llawer o fythau ynghylch iechyd meddwl ac mae stigma'n gysylltiedig â'r term yn aml iawn, ond mae iechyd meddwl gennym ni i gyd yn union fel iechyd corfforol, a bydd ei gyflwr yn newid o bryd i'w gilydd.

Bydd un o bob pedwar ohonom yn cael ein heffeithio gan broblem iechyd meddwl ac i fyfyrwyr a phobl ifanc gall gael effaith enfawr ar eu haddysg a'u dewisiadau ar gyfer y dyfodol.

Mae llawer o ffactorau sy’n gallu ysgogi problemau iechyd meddwl i bobl ifanc - straen yn y coleg, problemau gartref neu brofedigaeth ac ati.  Y pryderon iechyd meddwl sy'n cael eu diagnosio'n fwyaf aml yw iselder, pryder, anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), ffobiâu, anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia, anhwylderau personoliaeth ac anhwylderau bwyta.

Bydd y swyddog dynodedig yn cydweithio’n agos â myfyrwyr i'w helpu i reoli eu hastudiaethau academaidd a'u pryderon iechyd meddwl, gan weithio'n agos â thiwtoriaid a darlithwyr, asiantaethau allanol perthnasol ac arbenigol, gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr cymorth i sicrhau’r lefelau cymorth gorau i fyfyrwyr a bod eu profiad o fywyd coleg a'r cymorth sydd ar gael yn gadarnhaol.