Mae amrywiaeth eang o bynciau Safon Uwch ar gael yn yr adran hon. Bydd rhai yn gyfarwydd, ond bydd eraill yn newydd i fyfyrwyr - hynny yw, ni fyddan nhw wedi bod ar gael ar lefel TGAU - a dyna pam y dylech chi edrych arnyn nhw’n fanwl. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i’r union bwnc roeddech chi’n chwilio amdano. Er enghraifft, bydd llawer ohonoch wedi astudio Daearyddiaeth ar lefel TGAU ac am wybod rhagor am Ddaeareg. Bydd Seicoleg a Chymdeithaseg hefyd yn anghyfarwydd.
Mae cyrsiau TGAU hefyd ar gael mewn rhai pynciau i’r rhai sydd am astudio’n rhan-amser.
Cynhelir sesiynau ymarferol mewn labordai modern llawn cyfarpar. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol ac maen nhw’n perfformio’n dda bob blwyddyn.
Chwilio am gwrs Mathemateg, Gwyddoniaeth a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Statws 'Aelod Cyswllt' i'r coleg
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws ‘Aelod Cyswllt’ gan y Gymdeithas Frenhinol, academi wyddoniaeth genedlaethol y DU.