Cerddoriaeth, y Cyfryngau a Pherfformio

 

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn ar gael, gyda dewisiadau ar gyfer Safon Uwch ac astudiaethau galwedigaethol. Addysgir y rhan fwyaf o’r cyrsiau hyn ar Gampws Gorseinon, ac addysgir y cyrsiau galwedigaethol mewn Perfformio Cerdd ar Gampws Llwyn y Bryn yn ardal yr Uplands Abertawe.

Adran gerddoriaeth y Coleg yw’r fwyaf yng Nghymru ac rydym yn rhedeg ystod o ensembles gan gynnwys côr, cerddorfa a band jazz.

Mae gan y Coleg gysylltiadau ardderchog â cholegau arbenigol. Rydym yn ganolfan clyweliadau rhanbarthol ar gyfer Arts Ed Llundain, Academi Mounview a Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Drwy gydol y flwyddyn bydd ein myfyrwyr yn cael cyfle i berfformio yn nigwyddiadau corfforaethol y Coleg fel ein Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol a’n Seremoni Graddio.

Y diwydiannau creadigol yw’r rhan o economi’r DU sy’n dyfu gyflymaf ac mae’r potensial ar gyfer twf yn y dyfodol yn glir. Ym mhob cwr o’r byd, mae talent greadigol o Gymru yn gwneud ei marc, yn troi dychymyg yn ddiwydiant ac yn darparu gyrfaoedd llewyrchus.

Mae’r Cyfryngau Creadigol yn cwmpasu amrywiaeth mawr o sgiliau o Lefelau 2 i 5. Mae llwybrau’n cynnwys gwneud ffilmiau, cynhyrchu sain, effeithiau gweledol, graffeg symudol, ffotograffiaeth, dylunio graffig, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata.
 

Cynllunio ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau creadigol?

Mae cynifer o opsiynau ar gael – ewch ati i ymchwilio heddiw

Ewch i www.discovercreative.careers/cy 

Hyfforddwr Gyrfa

Archwiliwch yrfaoedd posibl a chynllunio ar gyfer eich dyfodol

Rhagor o wybodaeth