Mae amrywiaeth eang o gyrsiau amser llawn ar gael, gyda dewisiadau ar gyfer Safon Uwch ac astudio galwedigaethol. Addysgir y rhan fwyaf o’r cyrsiau hyn ar gampws Gorseinon, ac addysgir y cyrsiau galwedigaethol mewn Perfformio Cerdd ar gampws Llwyn y Bryn yn ardal yr Uplands Abertawe.
Gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau presennol ac archwilio meysydd newydd ar y cyrsiau cyffrous hyn. Cânt eu hannog gan staff arbenigol profiadol ac mae llawer o’r rhain yn parhau i weithio’n broffesiynol o fewn eu disgyblaeth. Mae stiwdios a gweithdai pwrpasol yn darparu amgylchedd sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer addysg uwch neu yrfa yn y maes o’u dewis.
Mae cyfleoedd perfformiadau cyhoeddus a sioeau rheolaidd yn rhoi modd i fyfyrwyr ddangos eu doniau.
Pam dewis cwrs galwedigaethol cerddoriaeth yn Llwyn y Bryn?
90% cyfradd cwblhau'n llwyddiannus
Dilyniant ardderchog (Atriwm Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon, Ysgol Gerdd Prifysgol Caerdydd ac ati)