Myfyrwyr sy’n wynebu digartrefedd

Swyddog cymorth dynodedig y coleg ar gyfer digartrefedd: Mo Qasim

01792 284261
mohammed.qasim@gcs.ac.uk

I rywun sy'n ceisio astudio mae problemau llety yn gallu achosi llawer o bryder. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae swyddog cymorth digartrefedd gennym sydd â chysylltiadau gwych â sefydliadau digartrefedd.
 
Gwaith y swyddog cymorth digartrefedd yw rhoi cyngor a chymorth i'r myfyrwyr hynny a allai fod yn wynebu problemau llety oherwydd bod perthynas wedi chwalu gartref ac ati. 

Mae'r swyddog cymorth digartrefedd yn cydweithio'n agos â Phrosiect Bays i geisio atal digartrefedd, ac mae hefyd yn sicrhau bod y myfyrwyr hynny sy'n ddigartref yn cael tai addas yn gyflym (gyda chymorth asiantaethau sy'n helpu myfyrwyr gyda'u hanghenion byw'n annibynnol).