Newyddion a Digwyddiadau

27
Maw
Creative/digital apprentices at GR Digital

Adroddiad gan Estyn yn canmol Darpariaeth Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg

Heddiw (27 Mawrth) cyhoeddwyd Adroddiad Estyn (Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) Coleg Gŵyr Abertawe. Yn yr adroddiad, cafodd y Coleg ei ganmol am ei ddarpariaeth prentisiaethau/Dysgu Seiliedig ar Waith a gynigir yng Nghymru.
22
Maw

Cynhadledd Myfyrwyr Cymru i Bedwar Ban Byd

Roedd myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn gyffrous i fynd i Gynhadledd Myfyrwyr ‘Cymru i Bedwar Ban Byd’ ITT Future You ar ddydd Mawrth 27 Chwefror. Roedd myfyrwyr yn gallu dysgu am yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael o fewn y diwydiant, a chael cyfle i rwydweithio â chyflogwyr i archwilio rhagolygon gyrfa’r dyfodol.  
21
Maw
Fatima Lopes, Llywydd Undeb y Myfyrwyr gyda Joshua Jordan, Rheolwr Profiad a Lles Dysgwyr, yn dal y ddwy dystysgrif a thlws

Gwobrau UCM Cymru yn cydnabod cyfraniadau rhagorol i les ac ymgysylltiad myfyrwyr

Yn ddiweddar (dydd Mawrth, 19 Mawrth) fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe ennill dwy wobr glodfawr yng nghynhadledd UCM Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn ddathliad o gyfraniadau amhrisiadwy a wneir gan gymdeithasau myfyrwyr, swyddogion a staff eraill at gynnig amgylchedd cefnogol ac egnïol i ddysgwyr.
21
Maw
Children benefiting from the Kenya Community Education Project

Cyfle unwaith-mewn-oes, allwch chi helpu ein myfyrwyr i helpu eraill?

Er ei bod dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd, mae Ysgol Gynradd Madungu yn agos iawn at galon Coleg Gŵyr Abertawe. Yma, mae’r Prif Swyddog Gweithredol yn esbonio sut mae’r Coleg wedi cefnogi’r ysgol am dros 20 mlynedd - a sut y gallwch chi helpu.
18
Maw

Gwobr i’r Coleg am ragoriaeth mewn addysg seiberddiogelwch

Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r sefydliadau addysg diweddaraf i ennill Gwobr Aur CyberFirst am ei addysg seiberddiogelwch ragorol.
15
Maw
Myfyrwyr yn dal medalau a thystysgrifau

Pobl ifanc Cymru yn fuddugol yn y gystadleuaeth sgiliau genedlaethol

Mae dros 280 o bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru wedi cael cydnabyddiaeth am eu sgiliau galwedigaethol rhagorol yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni, gan ennill 96 o fedalau aur, 92 o fedalau arian a 97 o fedalau efydd.
15
Maw

Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Gwobr AoC am Ehangu Cyfranogiad 23/24

Yn ddiweddar fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr AoC am Ehangu Cyfranogiad yn Noson Wobryo Beacon Cymdeithas y Colegau. Mae cannoedd o geisiadau’n cael eu cyflwyno o sefydliadau ledled y wlad bob blwyddyn, ac mae Gwobrau Beacon yn wobrau clodfawr tu hwnt ym maes addysg bellach. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 29 o flynyddoedd.
14
Maw
Finally, the Technical Working Group for the VET Toolbox II project (made up of employers and cooperatives).

Coleg Gŵyr Abertawe’n sefydlu partneriaeth AHG newydd yn Ghana a Malawi

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cryfhau ei gysylltiadau ag Affrica trwy gymryd rhan mewn prosiect AHG (addysg a hyfforddiant galwedigaethol) newydd gan VET Toolbox II. 
08
Maw
Cyfarwyddwr AD Sarah King y tu allan i 10 Stryd Downing, dydd Llun 4 Mawrth

Coleg yn cael ei wahodd i Rif 10 i drafod menopos yn y gweithle

Cafodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, ei gwahodd i Stryd Downing yr wythnos hon (dydd Llun 4 Mawrth) i ddechrau dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) 2024. Gwahoddwyd Sarah i gymryd rhan mewn sesiwn bord gron ar y Menopos yn y Gweithle cyn DRhM heddiw (dydd Gwener 8 Mawrth).
06
Maw
Adeilad campws

Gwybodaeth am noson agored Campws Tycoch, Nos Lun 11 Mawrth

Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n meddwl am ddod i’n noson agored ar Gampws Tycoch ar 11 Mawrth. Mae’r noson agored yn dechrau am 5.30pm a bydd yn gorffen am 7.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa pan fyddwch chi'n cyrraedd.

Tudalennau

Subscribe to Gower College Swansea Feed