Catering and Hospitality News

Togetherall - cymuned ddiogel, anhysbys ar gyfer cymorth iechyd meddwl 24/7
Iechyd, diogelwch a lles ein myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i’w helpu. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod bellach yn cynnig gwasanaeth cymorth ardderchog ar-lein o’r enw Togetherall.

Cyn-fyfyriwr yn ennill teitl Dysgwr VQ Lefel Ganolradd y Flwyddyn 2019
Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Collette Gorvett wedi cael ei henwi yn Ddysgwr Lefel Ganolradd y Flwyddyn yng Ngowbrau VQ 2019.
Roedd Collette, sydd bellach yn gweithio yn The Ritz yn Llundain, wedi ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe yn 2015 i astudio Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol cyn symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch, Cegin a Bwtri.

Myfyrwyr CGA yn ennill gwobrau Aur, Arian ac Efydd yn WorldSkills!
Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio’n eithriadol o dda yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol UK LIVE WorldSkills yn NEC Birmingham yn ddiweddar.
Enillodd y myfyriwr Peirianneg Electronig Jamie Skyrme Fedal Aur yn y categori Electroneg Ddiwydiannol ar ôl ymgymryd â set heriol o dasgau cystadlu gan gynnwys canfod namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.

Myfyrwyr arlwyo yn mwynhau arddangosiad sgiliau cegin
Trefnwyd arddangosiad byw ar gyfer myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel rhan o’u rhaglen sefydlu.
Roedd y cyn-fyfyrwyr Ben Adams a David Davies wedi dychwelyd i geginau Tycoch i baratoi terîn cyw iâr a tsioriso, suprême cyw iâr wedi’i ffrio gyda thatws dauphinoise, stwnsh pwmpen cnau menyn a panache o lysiau, wedi’u dilyn gan mousse chartreuse siocled.
Darlithydd yn ŵr gwadd yn lansiad popty
Stephen Williams, darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, oedd y gŵr gwadd yn agoriad swyddogol popty newydd sbon yng nghanol y ddinas.
Perchennog yr Hong Kong Bakery yn Heol Brynymor yw Peter Wong, cyn-fyfyriwr yn y Coleg.

Pobl ifanc fedrus yn mynd i ornest Budapest
Cyhoeddwyd y bydd y prentisiaid medrus ifanc gorau o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu dewis i gynrychioli'r DU yn y gystadleuaeth sgiliau fwyaf pwysig a nodedig yn Ewrop.
Yn eu plith mae Collette Gorvett, myfyriwr Lletygarwch Coleg Gŵyr Abertawe.
Tudalennau
