Newyddion a Digwyddiadau

06
Awst

Gwybodaeth am Ganlyniadau 2021

Bydd canlyniadau’n cael eu dosbarthu i fyfyrwyr drwy eILP. Gall fyfyrwyr gael gafael ar eu canlyniadau drwy ap engagae neu wefan y coleg.
30
Gorff

Myfyrwyr yn cael blas ar yrfa cogydd enwog

Mae cogydd eiconig o Brydain wedi rhoi cipolwg sydyn y tu ôl i’r llenni i grŵp o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar ei fwyty yn Abertawe yn ogystal â rhoi blas iddynt ar ei yrfa ysbrydoledig. Fe wnaeth Marco Pierre White, a agorodd ei Steakhouse Bar & Grill y llynedd yn y J-Shed yn SA1, gwrdd â phedwar myfyriwr o adran Arlwyo a Lletygarwch y Coleg.
28
Gorff

Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio dwy brif wobr prentisiaeth arall

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill teitlau nodedig ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Digidol’ a ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Peirianneg a Gweithgynhyrchu’ yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC FE Week ac AELP.
08
Gorff

Diwrnod iachusol allan ym Mae Rhosili

Roedd golygfeydd hyfryd a thraeth eang Bae Rhosili wedi creu cryn argraff ar ein carfan blwyddyn 1af bresennol. Roedd y myfyrwyr yn falch iawn o gael cyfle i ymlacio gyda’i gilydd a chymdeithasu ar un o draethau mwyaf poblogaidd Bro Gŵyr. Roedd glaw yn edrych yn debygol, ond yn ffodus, roedd y tywydd wedi aros yn sych ac yn fwyn yn ystod ein hymweliad grŵp.
06
Gorff

Llwyddiant Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i Byddia a Jae

Mae’r ddau fyfyriwr dawnus o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu derbyn i astudio BA (ANRH) Theatr Gerdd mewn coleg arbenigol yng Nghymru. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n denu myfyrwyr dawnus dros ben i astudio yno o bob cwr o’r byd.
05
Gorff
Gower College Swansea Virtual Annual Student Awards 2021

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir Coleg Gŵyr Abertawe 2021

Am yr ail flwyddyn yn olynol, symudodd Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe ar-lein ac, unwaith eto, roedd yn ddathliad rhithwir gwych o lwyddiant myfyrwyr. Roedd y digwyddiad yn cynnwys 23 categori gwobr ar wahân ar draws darpariaeth helaeth y Coleg gan gynnwys amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau, rhaglenni cyflogadwyedd a chyrsiau Addysg Uwch.
05
Gorff

Diweddariad ar Ganlyniadau Adolygiadau’r Ganolfan

Mae proses Adolygu’r Ganolfan bellach wedi cael ei chwblhau ac mae’r holl raddau wedi cael eu hanfon i CBAC. Os ydych wedi gwneud cais am adolygiad byddwn yn e-bostio ymateb a’r canlyniad i chi erbyn diwedd heddiw - dydd Llun 5 Gorffennaf Bydd cyfle arall i apelio pan gaiff y graddau terfynol eu cyhoeddi gan CBAC ar 10 Awst (Safon Uwch) a 12 Awst (TGAU).
02
Gorff
Dathlu Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol – Dosbarth ‘21

Dathlu Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol – Dosbarth ‘21

Roedd myfyrwyr Rhyngwladol yr ail flwyddyn wedi dathlu eu Graddio U2 yn ddiweddar yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti. 
01
Gorff
Cynllun prentisiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw’r gorau yn y DU

Cynllun prentisiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw’r gorau yn y DU

Enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Raglen Brentisiaeth y Flwyddyn yn nigwyddiad blynyddol Gwobrau Tes FE, sy’n cydnabod y sefydliadau addysg bellach gorau sy’n cefnogi dysgwyr ledled y DU. Mae Tes, a elwid gynt yn Times Educational Supplement, yn un o’r cyfryngau blaenllaw ar gyfer y sector addysg.
22
Meh

Annog busnesau i wella sgiliau digidol staff trwy hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn annog busnesau yn Ne-orllewin Cymru i gofrestru eu staff ar hyfforddiant digidol wedi’i ariannu’n llawn i sicrhau bod ganddynt y sgiliau i fanteisio ar y technolegau a’r offer diweddaraf.

Tudalennau

Subscribe to Gower College Swansea Feed