Newyddion a Digwyddiadau

27
Awst
Llwyddiant ysgoloriaeth i fyfyriwr Rhyngwladol

Llwyddiant ysgoloriaeth i fyfyriwr Rhyngwladol

Mae Jarrett Zhang yn dathlu ar ôl cael ysgoloriaeth £180,000 gan gwmni mwyngloddio Rio Tinto i astudio Daeareg yng Ngholeg Imperial Llundain.
27
Awst
Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel!

Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel!

Mae 60% o’n myfyrwyr Safon Uwch rhyngwladol wedi ennill graddau A* ac A yn eu harholiadau yn ddiweddar. Ers hynny, mae dros 90% o’r myfyrwyr hyn wedi cael eu derbyn i astudio mewn prifysgolion Russell Group nodedig, gan gynnwys Caergrawnt. Dyma rai o’r cyrchfannau prifysgol sydd wedi’u cadarnhau a’r myfyrwyr fydd yn mynd iddynt:
23
Awst
Pum llwybr gyrfa y gallech eu harchwilio yma yn Abertawe

Pum llwybr gyrfa y gallech eu harchwilio yma yn Abertawe

I gannoedd o fyfyrwyr ar draws Abertawe, mae’r amser wedi dod i wneud penderfyniadau am yr hyn sy’n digwydd nesaf ar eu taith addysgol, p’un a yw’n goleg neu’n chweched dosbarth, yn brentisiaeth neu’n mynd yn syth i’r gweithle. Mae pob opsiwn addysg a hyfforddiant yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill sgiliau newydd a chreu llwybr gyrfa cyffrous a gwerth chweil.
22
Awst
Arweinydd lleol ar restr fer gwobrau arweinyddiaeth cenedlaethol

Arweinydd lleol ar restr fer gwobrau arweinyddiaeth cenedlaethol

Mae Sarah King, Cyfarwyddwr AD yng Ngholeg Gower Abertawe, wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Arwain Cymru eleni.
22
Awst
Myfyriwr Safon Uwch yn mynd i Brifysgol yn America

Myfyriwr Safon Uwch yn mynd i Brifysgol yn America

Ymhlith y 1000+ o fyfyrwyr sydd ar fin symud ymlaen i addysg uwch o Goleg Gŵyr Abertawe mae Elli Rees, sydd wedi cael lle mewn prifysgol nodedig yn America.
19
Awst
Shanghai yn galw myfyrwyr electroneg

Shanghai yn galw myfyrwyr electroneg

Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU ar gyfer Electroneg Ddiwydiannol a fydd yn cael ei chynnal yn yr NEC ym mis Tachwedd. Mae Rhys Watts, Liam Hughes, Ben Lewis a Nathan Evans i gyd yn dilyn cyrsiau Peirianneg Electronig ar Gampws Tycoch.
15
Awst
Canlyniadau Arholiadau Coleg Gŵyr Abertawe 2019

Canlyniadau Arholiadau Coleg Gŵyr Abertawe 2019

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd basio Safon Uwch gyffredinol o 99%, gyda 1205 o geisiadau arholiad ar wahân. O’r rhain, roedd 35% yn raddau A*-A, roedd 61% yn raddau A*-B ac roedd 82% yn raddau A*-C.
01
Awst
Trefniadau ar gyfer casglu tystysgrifau 2019

Trefniadau ar gyfer casglu tystysgrifau 2019

Os ydych chi’n bwriadu casglu eich canlyniadau'r wythnos yma, cofiwch ddod â phrawf adnabod (ID) gyda chi ar y diwrnod! Mae eich cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol ond gallwn hefyd dderbyn pasbort neu drwydded yrru (sydd â llun). Ni fyddwn yn gallu cyhoeddi eich canlyniadau heb prawf adnabod, fell mae’n hanfodol eich bod yn cofio hyn.
16
Gorff
Dyluniad patrwm arwyneb myfyriwr yn cyrraedd y rhestr fer

Dyluniad patrwm arwyneb myfyriwr yn cyrraedd y rhestr fer

Yn ddiweddar roedd myfyriwr Gradd Sylfaen Ffasiwn a Thecstilau Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gystadleuaeth idott nodedig. Roedd gwaith Sheeza Ayub yn un o dros 1,000 o ddarnau unigol a gyflwynwyd i’r gystadleuaeth gan fyfyrwyr celf a dylunio yn y DU ac ar draws Ewrop.
16
Gorff
Hwyl fawr i ddosbarth Rhyngwladol 2019

Hwyl fawr i ddosbarth Rhyngwladol 2019

Yn ddiweddar aeth rhai o’n myfyrwyr rhyngwladol Safon Uwch i ginio graddio ym Mhlas Sgeti cyn gadael. Roedd y cinio’n dathlu cyfnod y myfyrwyr yn y Coleg ac roedd yr holl westeion wedi mwynhau pryd o fwyd Prydeinig traddodiadol.

Tudalennau

Subscribe to Gower College Swansea Feed