Newyddion a Digwyddiadau
20
Maw

Coleg yn croesawu ysgolion lleol ar gyfer sioe deithiol cogyddion
Roedd 120 o ddisgyblion o chwe ysgol yn Abertawe wedi mwynhau diwrnod blasu lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 14 Mawrth. Trefnwyd yr achlysur arbennig rhad ac am ddim gan The Chefs’ Forum ac roedd yn gyfle i’r Coleg groesawu disgyblion ysgol a rhoi blas iddynt ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gwrs arlwyo.16
Maw
13
Maw

Wythnos Gymraeg
Cafwyd wythnos llawn digwyddiadau i ddathlu Cymreictod yn y Coleg o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Cawsom fore coffi ar bob campws, gyda chacennau hyfryd gan un o’n myfyrwyr galwedigaethol Lefel 3 Busnes, Heledd Hunt sydd a busnes ei hun ar instagram @helsbakescakes. Wrth gwrs roedd digonedd o bice ar y maen am ddim i’n myfyrwyr a staff hefyd!10
Maw

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill llu o fedalau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl i fyfyrwyr ennill cyfanswm o 30 medal yn dilyn y rownd ddiweddaraf o ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru. Gwahoddwyd y dysgwyr i ‘barti gwylio’ arbennig ar Gampws Tycoch ar 9 Mawrth i ddathlu wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi.10
Maw

Cleientiaid Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn mynd o nerth i nerth yn Bevan Buckland
Ers lansio Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn 2017, mae ein perthynas â’r Cyfrifwyr Siartredig, Bevan Buckland, wedi parhau i gryfhau. Mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd gwych i’n dysgwyr a’n prentisiaid yn barhaus, ac maent yn cyflwyno sesiynau yn rheolaidd i rannu eu cyngor arbenigol a’u gwybodaeth am y diwydiant.08
Maw
GWYBODAETH BWYSIG: Dydd Mercher 8 Mawrth
Rydym yn cadarnhau y bydd y Coleg ar agor heddiw, dydd Mercher 8 Mawrth Bydd bysiau yn rhedeg ac rydym yn paratoi i raeanu ein campysau cyn gynted â phosibl. Byddwch yn ofalus ar eich taith ac yn enwedig yn y meysydd parcio ac wrth gerdded o gwmpas y campysau.Tudalennau
