Newyddion a Digwyddiadau

Gwaith celf arbennig yn dal ysbryd Llwyn y Bryn
Mae’r myfyriwr Celf a Dylunio, Flora Luckman, wedi cael ei chomisiynu gan Goleg Gŵyr Abertawe i greu darn o waith pwrpasol sy’n dal ethos ac awyrgylch Campws Llwyn y Bryn.
Yn ddiweddar, mae Flora wedi cwblhau’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Llwyn y Bryn ac mae bellach yn symud ymlaen i Brifysgol Caeredin i astudio Darlunio.
Neges i rieni/warcheidwaid
Rwy’n gobeithio eich bod chi a’ch teulu wedi mwynhau gwyliau’r haf.
Wrth i’n myfyrwyr ddychwelyd i’r Coleg, hoffem eich gwneud yn ymwybodol o’r trefniadau sydd ar waith o ddechrau tymor yr hydref a sut y byddwn yn parhau i flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein myfyrwyr tra byddant yn y Coleg.

Anrhydedd Coleg Noddfa i Goleg Gŵyr Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel Coleg Noddfa, y Coleg AB cyntaf yng Nghymru i dderbyn clod o’r fath.
Rhoddwyd yr anrhydedd hon i’r Coleg gan City of Sanctuary UK, sefydliad sy’n ymrwymedig i adeiladu diwylliant o ddiogelwch, cyfle a chroeso, yn enwedig i’r rhai sy’n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth.

Canolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe – diweddariad pwysig
Oherwydd canllawiau’r Coleg ar weithrediadau diogel, bydd y Ganolfan Chwaraeon ar agor i aelodau o’r cyhoedd rhwng yr oriau canlynol yn unig o 1 Medi 2021:
Dydd Llun – Dydd Gwener: 6.30am-8.30am a 4.30pm-10pm
Byddwn ni’n gweithredu fel arfer bob dydd Sadwrn a dydd Sul.

Sioe Haf Celf a Dylunio Sylfaen 2021 – “2031”
Croeso i’n Harddangosfa Celf a Dylunio Sylfaen, yn seiliedig ar y thema “2031”. Mynnwch gip ar ein sioe rithwir isod trwy glicio ar y cylchoedd i symud o gwmpas. Cliciwch a llusgwch i edrych i unrhyw gyfeiriad a chliciwch ar y cylchoedd pinc i wylio fideos o’n myfyrwyr yn trafod eu gwaith!

Sut le fydd Coleg Gŵyr Abertawe yn y tymor newydd?
Mae’r Pennaeth Mark Jones yn edrych ymlaen at ddechrau tymor yr hydref, gan esbonio sut mae’r Coleg yn parhau i sicrhau mai iechyd a diogelwch yw’r brif flaenoriaeth o hyd.
Wrth i ni nesáu at ddechrau’r tymor newydd, mae’n amser da i fyfyrio ar sut mae pethau wedi bod hyd yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Dr Doolittle Abertawe yn derbyn cynnig gan Gaergrawnt
Mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe un cam yn agosach at gyflawni ei freuddwyd o ddod yn filfeddyg ar ôl derbyn cynnig i astudio yn un o brifysgolion mwyaf nodedig y DU.
Ar ôl ennill tair A* mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg, mae Edan Reid, 18 oed o Abertawe â’i fryd ar fod yn filfeddyg arbenigol.

Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau arholiadau gwych ar gyfer 2021
Ar ddiwedd blwyddyn academaidd heriol arall, mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau gwych.
Y gyfradd pasio cyffredinol ar gyfer Safon Uwch oedd 99%, a derbyniwyd 1927 o gofrestriadau unigol ar gyfer sefyll arholiadau. Roedd 43% o’r graddau hyn yn A*-A, roedd 70% yn A*-B ac roedd 88% yn A*-C.
Diwrnod canlyniadau 2021 – gwybodaeth bwysig am apelio
Os oes unrhyw ddysgwr yn dymuno i’w ganlyniadau gael eu hadolygu, rhaid gwneud hyn ar-lein.
Gallwch wneud cais am adolygiad canolfan ac wedyn apelio i’r corff dyfarnu lle rydych yn credu bod camgymeriad wedi cael ei wneud wrth bennu eich gradd.

Gwybodaeth am Ganlyniadau 2021
Bydd canlyniadau’n cael eu dosbarthu i fyfyrwyr drwy eILP. Gall fyfyrwyr gael gafael ar eu canlyniadau drwy ap engagae neu wefan y coleg.
Tudalennau
