12 myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Rydgrawnt


Diweddarwyd 13/02/2020

Mae 12 myfyriwr Safon uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2020.

Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n ceisio darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.

Enw:

Ysgol flaenorol:

Cynigiwyd lle yn:

I astudio:

Rosa Barrett

Ysgol Friars, Bangor

Coleg Murray Edwards, Caergrawnt

Mathemateg

Caitlin Cavallucci

Pen-yr-heol

Coleg Homerton, Caergrawnt

Addysg a Seicoleg Dysgu

Megan Edwards

Llandeilo Ferwallt

Coleg Churchill, Caergrawnt

Gwyddorau Naturiol (Ffisegol)

Georgia Fearn

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth Caerfyrddin

Coleg Churchill, Caergrawnt

Saesneg

Mia Lamb-Richards

Llandeilo Ferwallt

Coleg St Hilda, Rhydychen

Cemeg

Rhidian Lerwell

Pen-yr-heol / Coleg Hartpury

Coleg Corpus Christi, Rhydychen

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg

Jason Liu

Ysgol Dyffryn Aman ac Olchfa

Coleg Churchill, Caergrawnt

Seicoleg a Gwyddorau Ymddygiadol

Lisa Lucini

Olchfa

Coleg yr Iesu, Caergrawnt

Meddygaeth

Morgan Richards

Llandeilo Ferwallt

Coleg Pembroke, Rhydychen

Biocemeg

Hannah Short

St John Lloyd, Llanelli

Coleg Newnham, Caergrawnt

Meddygaeth

Harrison Thomas

Cwmtawe

Coleg Churchill, Caergrawnt

Daearyddiaeth

Ioan Webber

Olchfa

Neuadd y Drindod, Caergrawnt

Peirianneg

Mae Rhaglen Rhydgrawnt y Coleg yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, ymweliadau â Phrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesu mewn pynciau perthnasol.

Coleg Gŵyr Abertawe - ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt - yw’r unig Goleg AB neu ysgol wladol yng Nghymru i redeg rhaglen HE+. Yn gweithio ochr yn ochr â Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru, nod HE+ yw datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth wneud eu dewisiadau prifysgol.

Yn ogystal, yn 2019 roedd y Coleg yn falch iawn o gryfhau cysylltiadau â Phrifysgol Rhydychen gyda chyflwyniad gweithdai ‘Step Up’ a gyflwynwyd mewn partneriaeth â New College, Rhydychen. Bwriad y gweithdai hyn yw sicrhau bod myfyrwyr sydd â photensial academaidd uchel yn cydnabod Rhydychen fel opsiwn realistig a chyraeddadwy wrth wneud cais am brifysgol.

“Rydyn ni’n falch dros ben o lwyddiant y myfyrwyr hyn,” meddai Felicity Padley, prif diwtor Rhydgrawnt. “Cael 12 cynnig ar y ford mewn un flwyddyn academaidd yw’r perfformiad gorau rydyn ni wedi’i weld ers ffurfio Coleg Gŵyr Abertawe yn 2010.”

Mae’n hyfryd gweld nifer gynyddol o fyfyrwyr o Abertawe yn elwa ar gyfleoedd HE+ a Rhwydwaith Academi Seren,” meddai Cydlynydd HE+ a Seren, Fiona Beresford. “Mae'r rhaglenni hyn yn helpu myfyrwyr i gael y cyngor, yr arweiniad a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud ceisiadau cystadleuol iawn – a cheisiadau llwyddiannus yn y pen draw. Rydyn ni’n hynod falch o lwyddiannau ein myfyrwyr.”

“Y llynedd, roedd dros 200 o fyfyrwyr o’r Coleg wedi cael cynigion gan brifysgolion Russell Group, ac roedd canran y ceisiadau hyn a arweiniodd at gynigion fwy na 10% yn uwch na chyfartaledd y DU,” ychwanegodd y Prifathro Mark Jones.

DIWEDD

Lluniau: Adrian White

Tags: