Skip to main content

Ail-agor y Ganolfan Chwaraeon – o ddydd Mawrth 1 Medi

Staff a myfyrwyr

Gallwn gadarnhau y bydd y Ganolfan Chwaraeon yn ail-agor i staff a myfyrwyr o ddydd Mawrth 1 Medi.

Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb, nodwch y newidiadau canlynol:

  • Bydd lleoedd cyfyngedig ar gael oherwydd pellhau cymdeithasol
  • Byddwch yn gallu defnyddio’r gampfa am hyd at awr yn unig
  • Dewch â’ch dŵr eich hun, ni fydd mynediad i’r ffynhonnau dŵr
  • Bydd cyfleusterau cawod cyfyngedig ar gael.

Aelodau’r cyhoedd

Gallwn gadarnhau y bydd y Ganolfan Chwaraeon yn ail-agor i aelodau’r cyhoedd o ddydd Mawrth 1 Medi.

Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch pawb, nodwch y newidiadau canlynol (cam un):

  • Amserau agor newydd:
    Diwrnodau’r wythnos 6.30am-8.30am a 4pm-10pm (cau’n gynharach ddydd Gwener 9pm)
    Dydd Sadwrn 8am-4pm
    Dydd Sul 8am -9pm
  • Bydd rhaid cadw lle gan fod mynediad yn gyfyngedig oherwydd pellhau cymdeithasol
  • Byddwch yn gallu defnyddio’r gampfa am hyd at awr yn unig
  • Dewch â’ch dŵr eich hun, ni fydd mynediad i’r ffynhonnau dŵr
  • Bydd cyfleusterau cawod cyfyngedig ar gael.

I gadw lle neu i gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284088. Bydd llinellau’n agor ar ddydd Gwener 28 Awst, 9am-1pm. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, e-bostiwch sportscentre@gcs.ac.uk

Diolch am ein cefnogi yn ystod y cyfnod digynsail hwn, rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’r Ganolfan Chwaraeon yr wythnos nesaf.