Skip to main content

Noson agored a sesiynau gwybodaeth prentisiaethau ar gyfer Wythnos Prentisiaethau

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (NAW) 2023 yw’r 16eg dathliad blynyddol o brentisiaethau yn y DU. Mae’n dod â busnesau a phrentisiaid ynghyd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae prentisiaethau yn eu cael ar unigolion, busnesau a’r economi ehangach. Mae’n cyd-daro ag Wythnos Prentisiaethau Cymru (AWW) sy’n dathlu ac yn hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. 

Eleni, mae NAW ac AWW yn rhedeg rhwng dydd Llun 6 a dydd Sul 12 Chwefror, ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig amryw byd o weithgareddau i egluro a dathlu prentisiaethau: 

  • Ddydd Llun 6 Chwefror, bydd y Coleg yn cynnal ei seremoni Gwobrau Prentisiaeth flynyddol. Eleni, bydd y seremoni yn digwydd wyneb yn wyneb a bydd yn dathlu prentisiaid, tiwtoriaid a phartneriaid addysgu o bob maes pwnc! 
  • Ddydd Mercher 8 Chwefror, bydd y Coleg yn rhedeg Noson Agored Prentisiaethau i bobl o bob oedran a hoffai wybod rhagor am brentisiaethau neu sydd am gychwyn eu taith prentisiaeth. 
  • Yn olaf, rhwng dydd Llun 6 a dydd Gwener 10 Chwefror, bydd y Coleg yn rhedeg Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau rhithwir ar Teams. Mae’r manylion i’w gweld isod!

Cofrestrwch ar gyfer ein noson agored prentisiaethau!

Sesiynau Gwybodaeth Prentisiaethau

Dydd Llun 6 Chwefror

9.30-10am: Chwaraeon (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

11-11.30am: Cyngor ac Arweiniad (Lefel 3 a 4)
Sesiwn Holi ac Ateb

2pm: Iechyd Clinigol (Lefel 2 a 3)
 

Dydd Mawrth 7 Chwefror 

9-11am: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant craidd ac ymarfer (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

9-11am: Peirianneg - Fecanyddol a Weldio/Ffabrigo
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

9-11am: Peirianneg - Electronig a Diogelwch
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

9-11am: Cerbydau Modur
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

10.30-11am: Gweithrediadau Canolfan Gyswllt (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Holi ac Ateb

11am-12pm: Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Lefel 4 a 5)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

1-1.30pm: Ffasiwn a Thecstiliau
Trosolwg o'r brentisiaeth

2-2.30pm: Technegau Gwella Busnes
 

4-4.30pm: Dylunio Profiad y Dysgwr - creu profiadau digidol cadarnhaol i ddefnyddwyr (Cymhwyster Ymarferydd Digidol)
 

Dydd Mercher 8 Chwefror

9.30-11.30am: Gweithio ym maes Gwyddoniaeth
 

10-10.30am: Gwasanaeth Cwsmeriaid (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Holi ac Ateb

10-11am: Tai (Lefel 3)
Trosolwg o'r brentisiaeth 

10-11am: Prentisiaethau a sut gall Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol eich helpu
 

Dydd Iau 9 Chwefror 

9-11am: Cefnogi Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion (y ddwy lefel)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

9.30-10am: Cyfrifeg (AAT)
Sesiwn Holi ac Ateb

10-11am: Tai (Lefel 2)
Trosolwg o'r brentisiaeth

11am-12pm: Rheoli Cyfleusterau
Sesiwn Holi ac Ateb

11am: Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefel 4)
 

1-1.30pm: Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Gyrfaoedd (Lefel 4)
Sesiwn Holi ac Ateb

1-1.30pm: Cyfieithu Cymraeg
 

2-2.30pm: Technegau Gwella Busnes
 

4-4.30pm: Dylunio Profiad y Dysgwr - creu profiadau digidol cadarnhaol i ddefnyddwyr (Cymhwyster Ymarferydd Digidol)
 

Dydd Gwener 10 Chwefror

10am: Iechyd a Gofal Cymdeithasol craidd (Lefel 2)
 

10-11am: Rheoli Adnoddau Cynaliadwy
 

11-11.30am: Datblygiad Cymunedol (Lefel 3)
Sesiwn Holi ac Ateb

11am: Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ymarfer (Lefel 2 a 3)
 

3-3.30pm: Paratoi’ch busnes ar gyfer y dyfodol gyda Phrentisiaethau Digidol
Take a look at the suite of digital apprenticeships Gower College Swansea offers, and how we can support your business digital transition.  Presentation and Live Q&A.

3-3.30pm: Chwaraeon (Lefel 2 a 3)
Sesiwn Galw Heibio a Holi ac Ateb

Gwelwch ein holl prentisiaethau

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y sesiynau hyn sy’n digwydd yn ystod Wythnos Prentisiaethau neu os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â ni.

E-bost: training@gcs.ac.uk

Ffôn: 01792 284400