Skip to main content

Buddsoddi mewn doniau ifanc

Mae cynlluniau ar droed i feithrin sgiliau a doniau pobl ifanc leol a rhoi hwb i'r gweithlu GIG a gwyddorau bywyd lleol.

Estynnwyd gwahoddiad yn ddiweddar i dros 200 o ddisgyblion Blwyddyn 11 o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt i gynhadledd gyrfaoedd arbennig oedd yn hoelio sylw ar yr amrywiaeth o swyddi yn y GIG a'r sector gwyddorau bywyd, fel gwaith labordy a phrofi gwyddonol i helpu i ddiagnosio a thrin salwch.

Cynhaliwyd y Gynhadledd Elevate gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn gynharach y mis hwn ac roedd yn llwyddiant mawr gyda disgyblion Llandeilo Ferwallt.

Dywedodd trefnydd y gynhadledd, Bev Wilson-Smith, Eiriolwr Sgiliau Gwyddor Bywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Roedd y disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol, gyda chymorth staff academaidd, yn ogystal â rhai o gewri byd diwydiant fel GSK a Fujitsu. Yma cawson nhw gyfle i gael gwybodaeth am yrfaoedd posibl neu hyd yn oed gyrfa doedden nhw ddim yn gwybod oedd yn bodoli.”

Ychwanegodd Hamish Laing, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg: “Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda yn wynebu heriau recriwtio. Dyw hyn ddim yn unigryw i'r ardal hon ond mae'n broblem fawr. Rydym ni am ddefnyddio pobl o'n cymunedau lleol, a'u hannog nhw i ddilyn gyrfa ym maes iechyd a gwyddorau bywyd fel eu bod nhw am weithio yn yr ardal hon a gwella iechyd ein cymunedau.”

Roedd y gynhadledd hefyd wedi cyflwyno'r Gronfa Ddoniau, profiad dysgu newydd arloesol i'r rhai 16 oed a hŷn sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y proffesiwn meddygol, gofal iechyd a gwyddonol.

Esboniodd Beverley: “Mae gwaith ymchwil a wnaed gyda chyflogwyr cenedlaethol a lleol yn dweud wrthym ni fod galw mawr i gynyddu'r sgiliau a'r doniau sydd eu hangen ar gyfer eu meysydd gwaith. Gyda'n partneriaid, cyflogwyr, academia a'r GIG, bydd y Gronfa Ddoniau yn golygu bod dysgwyr ifanc yn gallu manteisio ar arbenigedd byd diwydiant a chyfleusterau arbenigol na fyddai ar gael iddynt fel arfer.”

“Rydym ni hefyd wedi dechrau gweithio gyda staff y bwrdd iechyd i drefnu lleoliadau gwaith arbennig lle y gall dysgwyr gael profiad o weithio mewn ysbyty neu amgylchedd gwyddor iechyd. Bydd y lleoliadau hyn hefyd yn cynnig modd i ddysgwyr gefnogi a helpu – lle y bo'n briodol - y gweithwyr proffesiynol a'r timau maen nhw'n gweithio gyda nhw, gan roi profiadau ymarferol go iawn iddyn nhw. O ganlyniad, bydd y Gronfa Ddoniau yn gwella'r cyflenwad o sgiliau a doniau yn yr ardal ar gyfer y sector iechyd a gwyddorau bywyd.”

Mae datblygu doniau lleol a llunio gweithlu gofal iechyd a gwyddorau bywyd y dyfodol yn rhan allweddol o brosiect ARCH (Cydweithrediaeth Ranbarthol ar gyfer Iechyd).

Mae'r prosiect yn ceisio gwella iechyd, cyfoeth a llesiant pobl yn Ne-orllewin Cymru, ac yn bartneriaeth sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe ynghyd â byrddau iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda.

Fel rhan o ARCH, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn agor canolfan newydd yn hydref 2016 ar gyfer 100 o ddysgwyr y Gronfa Ddoniau. I sicrhau'r cyfleoedd dysgu a phrofiad gwaith mwyaf posibl, bydd y ganolfan wedi'i lleoli rhwng Prifysgol Abertawe ac Ysbyty Singleton.

Bydd noson agored y Gronfa Ddoniau yn cael ei chynnal ar 25 Tachwedd (rhwng 5pm a 7pm) yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe i'r rhai a hoffai wybod rhagor.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ddoniau, cysylltwch â Bev Wilson-Smith ar 07500 668381 neu beverley.wilson-smith@gcs.ac.uk

Datganiad i'r wasg: Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg