Skip to main content

Canlyniadau Safon Uwch/UG Coleg Gŵyr Abertawe 2018

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn dathlu cyfradd basio Safon Uwch gyffredinol o 98%, gyda 1827 o geisiadau arholiad ar wahân.

O'r rhain, roedd 83% yn raddau uwch A*-C, roedd 58% yn raddau A*-B ac roedd 28% yn raddau A*-A – mae’r canrannau cryf hyn yn uwch na’r canlyniadau ardderchog a gafwyd yn 2017.

Roedd y gyfradd basio gyffredinol ar gyfer Safon UG yn 93%, gyda 69% ohonynt yn raddau
A-C a 48% yn raddau A-B - eto, mae'r canrannau cryf hyn yn uwch na chanlyniadau 2017.

Roedd 2853 o geisiadau arholiad ar wahân ar gyfer UG.

“Mae hon yn set wych o ganlyniadau arholiadau ar draws y bwrdd, ac mae nifer ein myfyrwyr sydd wedi cael graddau A ac A* yn uwch na blynyddoedd blaenorol,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Dwi hefyd wrth fy modd i weld bod canran y graddau A ar Safon UG wedi cynyddu'n sylweddol i 27%, o gymharu â 21% y llynedd. Rwy'n falch iawn bod yr holl waith caled wedi talu ar ei ganfed ar gyfer ein myfyrwyr. Rhaid i mi gymryd y cyfle hwn hefyd i gydnabod ein staff addysgu a chymorth gwych sydd wedi helpu’r dysgwyr hyn drwy gydol y flwyddyn.

“Rwy'n dymuno'r gorau i'n holl fyfyrwyr sy’n graddio wrth iddyn nhw symud ymlaen i gam nesaf eu teithiau dysgu - boed hynny mewn addysg uwch neu gyflogaeth.”