Coleg yn dathlu Santes Dwynwen


Diweddarwyd 30/01/2017

Bu Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu Dydd Santes Dwynwen mewn steil eleni.  Addurnwyd stafell gyffredin Gorseinon llawn balŵns calonnau coch.  Roedd pamffledi stori Dwynwen ymhobman, a digonedd o felysion, ‘Roses’ a chalonnau bach yn cael eu rhoi i’r myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth o’r diwrnod hwn.

Ar gampws Llwyn y Bryn, creodd Kath Oakwood, Cynorthwyydd Llyfrgell arddangosfa Santes Dwynwen hyfryd.  Bu Marc Nurse, Swyddog Adloniant Myfyrwyr, ar gampws Tycoch yn rhannu melysion dros y campws gan godi ymwybyddiaeth bellach.

Trefnodd Rhian Pardoe, Darlithydd Gofal Plant, a Neris Morris, Swyddog Iaith Gymraeg, dwmpath dawns flynyddol i holl fyfyrwyr Gofal Plant yng Nghanolfan Chwaraeon Tycoch.  Bu Rhian Noble, Hyrwyddwr y Gymraeg Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig Broadway,  a thŷ bwyta’r Vanilla Pod yn cynnal gweithgareddau.  Cafwyd noson bwyd thema Santes Dwynwen yn y Vanilla Pod, a chaneuon serch Cymraeg yn cael eu chwarae yn y salon, a chleientiaid yn derbyn calonnau siocled gyda phob triniaeth.  Creodd myfyrwyr gerddi acrostig ar yr enw ‘Dwynwen’, gan ennill cacennau bach i’w dosbarth yn wobr. 

Bu myfyrwyr sy’n astudio Lefel 3 Gwallt yn defnyddio’r achlysur i greu steiliau gwallt i fyny ar gyfer noson allan, a defnyddiwyd myfyrwyr o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe sy’n astudio ar y cwrs Lefel 1 fel modelau.  Bu'r rheini yn cyfieithu geiriau allweddol yn y pwnc i’w harddangos yn y dosbarth Lefel 3 - esiampl wych o arfer dda mewn dwyieithrwydd.

“Mae stori Santes Dwynwen yn un o chwedlau enwocaf Cymru, ac mae’n bwysig ein bod yn dathlu un o ddyddiadau pwysicaf y calendr Cymreig,” meddai Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg.  “Rydym fel coleg yn annog ein myfyrwyr a staff i gymryd rhan yn nathliadau diwrnodau fel hyn, gan eu bod yn cynyddu ethos Gymraeg a Chymreig y Coleg.  Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Eleri Griffiths, Swyddog Ieuenctid, Menter Iaith Abertawe ac Angharad Jenkins, ffidlwr o’r grŵp Calan, am gynnal y sesiynau llawn hwyl hyn.

Tags: