Skip to main content
Speaker

Coleg yn lansio HE+ ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd

Students

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu dros 250 o ddysgwyr  i gampws Gorseinon ar gyfer lansiad rhaglen HE+* 2017/18.

Coleg Gŵyr Abertawe, ar wahoddiad, ac ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt, yw’r prif sefydliad o fewn Consortiwm HE+ Abertawe, lle rydym yn gweithio gyda’r saith ysgol wladol chweched dosbarth yn Ninas a Sir Abertawe.

Yn ystod digwyddiad y lansiad heddiw, roedd myfyrwyr o’r coleg a’r ysgolion wedi gwrando ar anerchiad a draddodwyd gan Nick Williams, Prif Swyddog Addysg Abertawe, a Dr Jonathan Padley, Swyddog Ehangu Cyfranogiad yng Ngholeg Churchill Caergrawnt**.

Roedd y myfyrwyr wedyn yn gallu edrych o gwmpas cyfleusterau’r coleg a chwrdd â staff addysgu o amrywiaeth o feysydd pwnc gan gynnwys Saesneg, daearyddiaeth, hanes, y gyfraith, gwleidyddiaeth, economeg, busnes, seicoleg, gwyddoniaeth a mathemateg.

“Mae HE+ bellach yn ei chweched blwyddyn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, a’i nod yw datblygu sgiliau academaidd myfyrwyr a’u hysbrydloi i anelu mor uchel ag sy’n bosibl wrth ddewis prifysgol,” dywedodd Tiwtor Rhydgrawnt y coleg, Felicity Padley.

“Mae myfyrwyr ar y rhaglen HE+ yn mynychu dosbarthiadau ymestyn misol ar gynnwys academaidd ôl-faes llafur, ac maen nhw'n cael cyfle i wneud cais i ymweld â Phrifysgol Caergrawnt a'i cholegau cyfansoddol.”

“Mae nifer y myfyrwyr sy’n symud ymlaen o Goleg Gŵyr Abertawe i Brifysgolion Russell Group – sef 24 o brifysgolion blaenllaw y DU – wedi cynyddu’n raddol, o 136 yn 2014 i 175 yn 2017. Eleni, mae ein myfyrwyr yn symud ymlaen i ddim llai na 19 o’r 24 prifysgol hyn, gan gynnwys pedwar sy’n mynd i Gaergrawnt a dau i Rydychen.”

Mae consortiwm HE+ Abertawe yn cael ei gefnogi gan Raglen Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru, sef cyfres o hybiau rhanbarthol sy'n ceisio helpu myfyrwyr mwyaf galluog Blwyddyn 12 Cymru i gyflawni eu potensial academaidd.

Bydd Dr Padley yn dychwelyd i’r Coleg yn hwyrach yn yr wythnos i ddarparu sesiwn bellach ar ran Rhwydwaith Seren – gan roi cyngor a chyfarwyddyd i fyfyrwyr ar wneud ceisiadau cystadleuol i brifysgolion, sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau a sut i roi strategaeth at ei gilydd i symud ymlaen yn llwyddiannus i sefydliad AU blaenllaw.

DIWEDD

Nodiadau:

* Sefydlwyd yn 2010, mae rhaglen HE+ Prifysgol Caergrawnt yn annog ac yn paratoi myfyrwyr sy’n gwneud yn eithriadol o dda’n academaidd o ysgolion gwladol i wneud ceisiadau cystadleuol i’r prifysgolion gorau, gan gynnwys Caergrawnt. Mae’r rhaglen yn gweld y Brifysgol a’i Cholegau yn gweithio gyda grwpiau o ysgolion gwladol a cholegau mewn pymtheg rhanbarth i ennyn diddordeb eu myfyrwyr gorau mewn rhaglen gynaledig dros flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymestyn academaidd, dosbarthiadau meistr pynciol, sesiynau gwybodaeth ac arweiniad, ac ymweliadau â’r Brifysgol.

** Mae gan Dr Jonathan Padley gysylltiadau cryf â De Cymru. Yn y 1990au, astudiodd yn Ysgol Esgob Gôr yn Abertawe. Yn gynharach yn ei yrfa, darlithiodd yng Ngholeg Gorseinon, ac mae hefyd wedi gweithio yng Ngholeg Sir Gâr. Yn ogystal â’i rôl yng Nghaergrawnt, mae Dr Padley yn Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Abertawe a rhwng 2013 a 2015, cafodd ei secondio’n rhan-amser i’r Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru, gan weithio ar brosiect Llysgennad Rhydgrawnt Cymru a gweithredu wedyn ar argymhelliad ei bolisi allweddol, Rhwydwaith Seren. Dr Padley yw’r Swyddog Ehangu Cyfranogiad yng Ngholeg Churchill, Caergrawnt ac fel rhan o’i swydd mae’n ymweld ag ysgolion yn Ne Cymru yn rheolaidd ac yn croesawu myfyrwyr i Gaergrawnt.