Skip to main content
Cynnig prifysgol Americanaidd i Bethany

Cynnig prifysgol Americanaidd i Bethany

Mae myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle mewn prifysgol fawreddog yn America.

Mae Bethany Wisdom, sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch Hanes, Llenyddiaeth Saesneg a Ffrangeg ac yn dilyn rhaglen HE+ y Coleg, wedi cael cynnig lle i astudio’r celfyddydau breiniol yng Ngholeg Bryn Mawr ym Mhensylfania.

“Roeddwn i’n teimlo’n hollol ecstatig pan ges i’r cynnig - roedd yn benllanw llawer o waith caled ac roeddwn i ar ben fy nigon i fynd ar y daith i gael hyd i’r ‘ffit’ iawn i mi,” meddai Bethany. “Mae fy nheulu mor gefnogol ac yn gyffrous iawn i mi, er gwaethaf y pellter. Dwi’n edrych ymlaen at ymgolli yn yr amrywiaeth eang o opsiynau academaidd yn Bryn Mawr ond yn fwy na dim, dwi’n llawn cyffro am y gymuned gefnogol a chlòs – dwi’n gwybod y bydda i’n dod o hyd i gartref oddi cartref!”

“Rydyn ni i gyd wrth ein bodd â llwyddiant Bethany,” meddai Fiona Beresford, Cydlynydd Rhydgrawnt/HE+. “Mae hwn yn gyfle anhygoel ac yn un haeddiannol iawn gan fod Bethany wedi gweithio mor galed. Rydyn ni’n falch iawn o’i chyflawniad ac yn dymuno llwyddiant parhaus iddi yn ei holl ymdrechion yn y dyfodol ar draws yr Iwerydd!”

Bydd Bethany, sy’n bwriadu arbenigo mewn Saesneg, yn gadael am yr Unol Daleithiau ddiwedd mis Awst.

Ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig sefydliad yng Nghymru sydd wedi cael ei ddewis i redeg y rhaglen HE+ ac mae’n gweithredu fel y ‘canolbwynt’ ar gyfer yr holl chweched dosbarthiadau gwladol yn Abertawe.

Mae HE+ yn datblygu sgiliau academaidd ac yn ysbrydoli myfyrwyr i anelu’n uchel wrth wneud dewisiadau prifysgol a datblygu eu gwybodaeth a’u diddordebau uwch-gwricwlaidd.

Cefnogir HE+ hefyd gan Raglen Seren Llywodraeth Cymru.

Os hoffech wybod rhagor am gyrsiau cysylltiedig, ewch i
https://www.gcs.ac.uk/cy/a-levels-and-gcses