Skip to main content
Students

Deintydd fforensig byd-enwog yn ymweld â champws Gorseinon

Mae ei yrfa wedi mynd ag ef i bedwar ban byd, gan weithio ar achosion mor amrywiol a chymhleth â tswnami 2004 ac ymchwiliad llofruddiaethau Fred West.

Fodd bynnag, roedd y deintydd fforensig yr Athro David Whittaker OBE wedi canfod amser yn ei amserlen brysur yr wythnos hon i gwrdd â myfyrwyr Safon Uwch / BTEC STEM a myfyrwyr sesiynau tiwtorial meddygol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Mae galw mawr am yr Athro Whittaker ledled y byd ac felly rydyn ni’n teimlo’n ffodus ac yn ei hystyried hi’n fraint ei fod e wedi ymweld â ni ar gampws Gorseinon” dywedodd y darlithydd Amy Herbert. “Roedd ei anerchiad ar ddeintyddiaeth fforensig yn hynod o ddiddorol ac roedd e wedi rhannu llawer o storïau gwych â’r myfyrwyr. Byddai llawer ohonyn nhw wrth eu boddau’n dilyn yn ôl ei droed a chael gyrfa yn y maes hwnnw."

Gwnaed y digwyddiad hwn yn bosibl gyda chymorth y Gronfa Arloesi a’r prosiect Ymestyn yn Ehangach.