Diweddariad ar Ganlyniadau Adolygiadau’r Ganolfan


Diweddarwyd 05/07/2021

Mae proses Adolygu’r Ganolfan bellach wedi cael ei chwblhau ac mae’r holl raddau wedi cael eu hanfon i CBAC.

Os ydych wedi gwneud cais am adolygiad byddwn yn e-bostio ymateb a’r canlyniad i chi erbyn diwedd heddiw - dydd Llun 5 Gorffennaf

Bydd cyfle arall i apelio pan gaiff y graddau terfynol eu cyhoeddi gan CBAC ar 10 Awst (Safon Uwch) a 12 Awst (TGAU).

Bydd gwybodaeth ynghylch sut i wneud hyn yn cael ei rhoi gyda’ch canlyniadau ar y dyddiadau uchod. Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch yn fuan i’ch hysbysu pryd a ble i gasglu’ch canlyniadau.