Skip to main content

Diweddariadau i brofion Covid-19 myfyrwyr

Yn unol â chanllawiau diweddar Llywodraeth Cymru i leihau trosglwyddo Covid-19 ymhellach, bydd y newidiadau canlynol ar waith o ddydd Llun 11 Hydref:

  • Os ydych yn byw mewn aelwyd lle mae rhywun yn cael canlyniad positif, parhewch i ddod i mewn i’r Coleg ar yr amod nad ydych yn dangos unrhyw symptomau ac yn teimlo’n dda. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn cymryd prawf llif unffordd bob dydd am saith diwrnod. Gallwch gael gafael ar y profion hyn yn llyfrgelloedd y Coleg.
     
  • Os ydych yn byw mewn aelwyd lle mae rhywun yn cael prawf positif, ac rydych yn dangos symptomau, fe’ch cynghorir i gymryd prawf PCR. Gallwch drefnu prawf yma.

Cadw ein staff a’n myfyrwyr yn ddiogel yw ein prif flaenoriaeth, felly parhewch i ddilyn y canllawiau a chyda’n gilydd gallwn helpu i leihau trosglwyddo’r feirws.

I gael rhagor o wybodaeth am yr holl fesurau sydd gennym ar waith, ewch i’n tudalen we Cwestiynau Cyffredin Covid-19.